PARRY, GEORGE (1613? - 1678), clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau

Enw: George Parry
Dyddiad geni: 1613?
Dyddiad marw: 1678
Rhiant: James Rhys Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd c. 1613, mab James Rhys Parry. Ceir rhai manylion am gysylltiadau'r teulu a siroedd Henffordd a Brycheiniog yn yr erthygl ar y tad, ac yn llawnach yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 276-301, a iii, 13-6 - y cwbl o'r bron wedi eu cael yn rhagymadroddion George Parry i'w fersiwn ef fel y ceir hi yn NLW MS 641C . Y mae'n weddol sicr mai yr un ydoedd George Parry mab James Rhys Parry â ' George Parry, son of James Parry of Michael Church (Michaelchurch Escle), co. Hereford, pleb. St. John's College matric. 17 January, 1633-4, aged 21; B.A. 4 February 1633-4; perhaps M.A. Hart Hall 23 June 1635, and vicar of Dingestow, co. Monmouth, 1640, perhaps canon of Llandaff, 1663 ' (Foster, Alumni Oxonienses). Rhydd George ei hunan (yn NLW MS 641C ) fanylion ychwanegol. Bu'n athro cynorthwyol yn ysgol y Dr. Willes yn Thistleworth (Isleworth), yn feistr ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth, Caerfyrddin (cyn 1640 y mae'n debyg), a bu ganddo gysylltiad ag esgobaeth Llandaf; bernir felly mai efe oedd y George Parry a ddaeth yn offeiriad Dingestow, sir Fynwy, yn 1640, ac a wnaethpwyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Llandaf (7 Ionawr 1662/3). Gwnaethpwyd ef yn offeiriad Cheriton a Llanmadoc yng Ngŵyr (c. 1649); dywed Browne Willis (Survey of Llandaff, 1719) iddo farw yn nechrau 1678 a'i gladdu yn Cheriton. Y mae fersiwn George Parry mewn rhan mewn 'mesur salm' ac mewn rhan mewn mesurau caeth. Eithr yn wahanol i'r cyfieithwyr eraill ceir ganddo ef fersiwn Ladin hefyd - yn gyfochrog â'r un Gymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.