PARRY, GRIFFITH (1827-1901), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor;
g. yng Nghaernarfon fis Rhagfyr 1827; yr oedd ei fam yn chwaer i ‘Eryron Gwyllt Walia’ (Robert Owen [q.v.]), ac yn nith i John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog [qq.v.] — priodol fu iddo yntau gyhoeddi Cofiant a Gweithiau Robert Owen, 1880, a Cofiant a Phregethau Robert Roberts, 1884. Bu yng Ngholeg y Bala (1847-1851), a dechrau pregethu. Yn 1851 dechreuodd fusnes argraffu a gwerthu llyfrau yng Nghaernarfon, gan ddal i bregethu (ordeiniwyd yn 1856); ond ddiwedd 1861 cymerth at y fugeiliaeth: yn Llanrwst 1861-71, Salford 1871-6, Siloh, Aberystwyth, 1876-83, a Charno 1889-1901. Bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol (1889), yn llywydd cymdeithasfa'r Gogledd (1895), ac yn olygydd Y Drysorfa (1887-91). Yr oedd yn bregethwr hynod raenus, ac yn llenor coeth, yn ddarllenwr eang a dygn — mor gynnar â 1846 yr oedd wedi cyfieithu Astronomical Discourses Chalmers. Sgrifennodd lawer i'r Traethodydd a'r Drysorfa, a'i waith ef yw rhai o ysgrifau pwysicaf y ddau argraffiad o'r Gwyddoniadur. Cyhoeddodd hefyd esboniadau Beiblaidd, heblaw'r ddau lyfr a nodwyd. Bu f. 22 Awst 1901 yng Ngharno.
Llyfryddiaeth:
- Blwyddiadur MC, 1903 (gan John Owen).
Ail fab iddo oedd EDMUND WYNNE PARRY (1855-1897); g. yng Nghaernarfon 8 Awst 1855; addysgwyd yn ysgolion gramadeg Llanrwst a Manceinion; dechreuodd bregethu yn glerc banc; bu yng Ngholeg Aberystwyth (1877-9) a Choleg Lincoln, Rhydychen (1879 — graddiodd yno yn 1883); yn ddiweddarach (1895) enillodd radd B.D. yn S. Andrew's. Bugeiliodd eglwysi Saesneg Aberhonddu (1883) a Rhuthyn (1887) cyn mynd i Goleg y Bala yn athro cynorthwyol (1889) ac wedyn yn bennaeth yr ‘Adran Ragbarotoawl’; bu f. yn y Bala 4 Medi 1897. Coethder a lledneisrwydd Wynne Parry a dynnai sylw pawb. Golygodd rai o Anerchiadau David Charles Davies [q.v.] yn 1895, ac yn 1896 dug allan Cofiant a Phregethau David Charles Davies.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.