PARRY, HENRY (1766?-1854), clerigwr a hynafiaethydd;
g. c.1766, mab Henry Parry, Brynllech, Llanuwchllyn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 1 Mehefin 1786, yn 20 oed; B.A. 1790). Bu'n ficer Llanasa, sir y Fflint, am gyfnod hir, sef o 1798 hyd 1854; gwnaethpwyd ef yn un o ganoniaid Llanelwy ar 3 Mai 1833. Yr oedd yn flaenllaw fel eisteddfodwr (gw. Seren Gomer , 1834, 212, am ei hanes yn llywyddu mewn eisteddfod beirdd yn Nhreffynnon, 3 Mehefin 1834) ac fel hynafiaethydd (gw. marw-goffa byr yn Arch. Camb., 1855, 58). Golygodd ail argraffiad (Rhydychen, 1809) gramadeg y Dr. John Davies o Fallwyd a gyhoeddasid gyntaf yn 1621; sylwer fod argraffiad Parry ar werth gan Broster a Poole yng Nghaer a chan Carnes yn Nhreffynnon. Y mae rhai llythyrau a ysgrifennodd wedi eu cadw yng nghasgliadau Edward Jones (‘Bardd y Brenin’), Thomas a David Pennant, a Walter Davies (‘Gwallter Mechain’) yn Ll.G.C.; e.e. NLW. MS. 165, 1807, 1893, 2590-1, a 4877-8. Bu f. 17 Rhagfyr 1854.
Llyfryddiaeth:
- Thomas, S. Asaph;
- Foster, Index;
- ibid., Alumni Oxon.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth