Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, JOHN (1770-1820), bardd; g. 29 Mehefin 1770 mewn fferm o'r enw Y Wern, ger Llanelian, sir Ddinbych. Ef efallai yw'r John Parry, mab Edward a Catherine Parry, y nodir ei fedyddio ar 31 Awst 1770 yng nghopïau cofrestri plwyf Llanelian. Derbyniodd addysg dda, fel y mae'n amlwg oddi wrth ansawdd ei farddoniaeth. Pan oedd yn 28 oed, priododd ag Elsbeth Huws, Ffermnant, Llanelian, ac ar un adeg cadwai ef a'i wraig westy yn y pentref. Bu f. 25 Mehefin 1820, a chladdwyd ef ar y 28 o'r un mis ym mynwent y plwyf. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth, o natur grefyddol gan mwyaf, ac yr oedd yn enwog am ei atebion ffraeth. Ceir detholiad o'i weithiau yn Y Wenynen Bach a olygwyd gan Robert Humphreys (ail arg., Llanrwst, 1840). Ei gân fwyaf adnabyddus yw ‘Myfyrdod Mewn Mynwent,’ cerdd nid annhebyg mewn mannau i ‘Elegy written in a Country Church-yard’ Thomas Gray.

Llyfryddiaeth:

  • Gen., Ionawr 1893, 56-8; 1904, 72;
  • Enw. F., 809;
  • Owen Williams, Awduron Sir Ddinbych, Rhan 3, 136;
  • Cardiff Catalogue, 366;
  • cofrestri'r Eglwys yng Nghymru (yn Ll.G.C.).

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth