Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, JOHN (1775-1846), Caerlleon , gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a golygydd; g. yn 1775 yn fab Owen a Jane Parry, Groeslon-grugan, plwyf Llandwrog, sir Gaernarfon. Cafodd well addysg na'r cyffredin o ieuenctid yn y dyddiau hynny. Bu am dymor yn ysgol (Madam Bevan) ym Mrynrodyn, ysgol John Roberts (Llangwm) [q.v.], yn Llanllyfni, ac ysgol Evan Richardson [q.v.] yng Nghaernarfon. Yn 1793 aeth i gadw ysgol ym Mrynsiencyn, Môn — yr oedd honno'n ysgol ddydd i'r plant a hefyd yn ysgol nos i rai hŷn. Rhoes ei fryd yn gynnar ar fyned i weinidogaeth yr efengyl, ac ar Nadolig 1797 traddododd ei bregeth gyntaf. Yn 1800 symudodd i Gaergybi, ond, oherwydd y galwadau a ddeuai arno fel pregethwr, ysbeidiol i raddau fu yr ysgol yno. Wedi ei briodas â Miss Bellis, Caerfallwch, sir y Fflint, galwyd ef i wasnaethu'r eglwysi yn Llundain, ac ar yr un pryd cynorthwyai'r Parch. Thomas Charles, trwy ddarllen proflenni'r Beibl Cymraeg a gyhoeddid gan y Gymdeithas Feiblau. Yn 1806 ymsefydlodd John Parry a'i briod yn ninas Caer, ac wedi rhyw bedair blynedd o gadw siop ddillad troesant at gangen a oedd yn fwy dewisol ganddynt hwy, sef masnach lyfrau, a throes yr anturiaeth honno yn llwyddiant. Yn ei fasnach yr oedd yn ddiwyd, trefnus, a manwl. Bu'n llenor dyfal ar hyd ei oes. Heblaw amrywiol fân lyfrau, cafwyd ganddo gofiant i'r Parch. John Brown yn ogystal â chyfieithiad o Gorff Duwinyddiaeth yr un gŵr. Daeth allan hefyd Pedwar Cyflwr Dyn, cyfieithiad o gyfrol y Parch. T. Boston. Ysgrifennodd Esboniad ar Lyfr y Prophwyd Esaiah, a hefyd ddau ramadeg, etc. Nid gwiw ychwaith ydyw anghofio'r llyfryn a gyhoeddwyd yn 1811 — un a fu faes cyntaf efrydiaeth gyfundrefnol i blant Cymru am dros gan mlynedd, sef Rhodd Mam. Yr oedd Parry yn wresog ei ysbryd o blaid mudiadau fel y Genhadaeth Gartrefol a Thramor, addysg grefyddol, a gwaith yr ysgol Sul. Fe'i hordeiniwyd mor gynnar â'r flwyddyn 1814, a bu iddo ran yn ffurfiad cyffes ffydd y cyfundeb, 1823, yn ogystal â dwyn allan y weithred gyfansoddiadol wedi hynny. Wedi iddo sefydlu ei argraffwasg ei hun yn y flwyddyn 1818 cychwynnodd gylchgrawn misol, Goleuad Gwynedd. Ymhen tair blynedd, ar gais y cyhoedd, daeth hwn yn gyhoeddiad anenwadol dan yr enw Goleuad Cymru a'i bris yn 4c. Yn y flwyddyn 1830 daeth awydd am weled ail gychwyn Y Drysorfa, a ddaethai allan cyn hynny yn fylchog, ac yn Ionawr 1831 daeth allan y rhifyn cyntaf ohoni yn y gyfres newydd, ac ef a fu'n olygydd hyd ddiwedd ei oes.

Llyfryddiaeth:

  • Cofiant … John Parry o Gaerlleon;
  • Y Traethodydd, 1904, 446;
  • Cymru (O.M.E.), xii, 229;
  • Joseph Evans, Biog. Dict., 238-41;
  • Drys., 1846, 192.

Awdur:

Y Parch. Richard Thomas, B.A. (1872-1950), Caernarfon

Atodiadau a chywiriadau:

PARRY, JOHN (1775-1846; Bywg., 692) g. 7 Mai 1775, a bu f. 28 Ebrill 1846.