Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, JOHN (‘Bardd Alaw ’; 1776-1851); g. yn Ninbych, 18 Chwefror 1776, mab Thomas Parry, saer maen, o bentref Aberwheeler, tua chwe milltir o Ddinbych. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan gerddor a ddysgai rai i ddawnsio, ac a ddysgodd y clarinet iddo; canai John Parry yr offeryn hwnnw yn yr eglwys. Yn 1793 ymunodd â seindorf cartreflu sir Ddinbych, ac yn 1797 penodwyd ef yn arweinydd iddi. Yn 1807 ymsefydlodd yn Llundain; galwyd am ei wasanaeth i ganu'r offerynnau chwyth mewn cyngherddau, a dechreuodd yntau gyfansoddi iddynt. Yn 1809 cyhoeddodd ganeuon a darnau eraill, a chafodd wahoddiad i gyfansoddi cerddoriaeth i'r Vauxhall Gardens, ac ef a drefnai y rhan gerddorol am flynyddoedd. Yn 1804 dug allan The Ancient Britons Martial Music, ac yn 1807 gasgliad arall o'r darnau wedi eu trefnu i'r delyn neu'r piano, ffliwt, a sielo. Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Cambro-Briton ar alawon Cymreig, 1819-22. Yn 1820 penodwyd ef i drefnu rhan gerddorol eisteddfod Powys, ac yno'r urddwyd ef yn ‘Bardd Alaw.’ Yn 1821 dug allan gasgliad o Alawon Cymreig gyda geiriau Saesneg o waith Mrs. Hemans, a dwy opera — chwaraewyd un ohonynt am 25 o nosweithiau, a daeth hynny ag ef i sylw fel cyfansoddwr. Bu'n arweinydd cerddorol a beirniad yn eisteddfodau Aberhonddu (1822-6), Biwmares (1832), Caerdydd (1834), y Fenni (1836-48). Yn 1820 sefydlodd Gymdeithas y Canorion er meithrin canu gyda'r delyn, a cheir traethawd ar y delyn ganddo yn Y Cymmrodor. Golygodd y tonau i Seren Gomer am flynyddoedd. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth a chofir amdano fel cyfansoddwr y ddeuawd, ‘Flow gently, Deva,’ a fu mor boblogaidd yng Nghymru. Bu f. yn Llundain, 8 Ebrill 1851.

Mab iddo ydoedd JOHN ORLANDO PARRY (1810-1879), cerddor; g. 3 Ionawr 1810. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan Boscha, ac yn 15 oed daeth allan yn delynor cyhoeddus. Yr oedd yn chwaraeydd medrus ar y piano hefyd, ac yn 21 oed ymddangosodd fel datganwr (bariton). Yr oedd hefyd yn arlunydd da. Yn 1836 rhoddwyd budd-gyngerdd iddo o dan nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion, a chymerai prif gantorion Llundain ran ynddo. Wedi hyn trodd i ganu caneuon ysgafn. Yn 1840 cyfansoddodd chwareugerdd ‘Wanted, a Governess,’ ac amryw ganeuon. Oherwydd afiechyd gadawodd y llwyfan yn 1853, ac apwyntiwyd ef yn organydd eglwys S. Jude, Southsea. Yn 1860 ymunodd â chwmni cyngerdd Mr. a Mrs. German Reed, ond oherwydd afiechyd ymneilltuodd yn 1869. Bu f. yn East Nousley, Surrey, fis Chwefror 1879. Y mae llawer o ddefnyddiau ynglŷn â'i waith fel cerddor ac arlunydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Y Gwyddoniadur;
  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
  • Y Cerddor, Ionawr 1890;
  • Asaph (Em. W.);
  • [Cymm., 1951].

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

PARRY, JOHN (1776-1851; Bywg., 692) Nid efo, ond ei fab John Orlando Parry, oedd awdur ‘Flow gently, Deva’.