Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, JOHN (1812-1874), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac athro yng Ngholeg y Bala; g. 23 Mawrth 1812 yn Bersham, ond yn 1824 symudodd ei rieni i Fanceinion. Anfoddhaol oedd yr ysgolion yr aeth iddynt yn blentyn; ac yn wyneb Seisnigrwydd amgylchedd ei febyd, ni thyfodd yn Gymreigiwr da cyn mynd i'r Bala. Prentisiwyd ef i ddwy grefft, a dilynai ddosbarthiadau nos yn y Mechanics Institute ym Manceinion; yno cymerth at fathemateg a gwyddoniaeth gyda'r fath sêl fel y cafodd drafferth ddirfawr i gael caniatâd i ddechrau pregethu; yn wir, derbyniodd Lewis Edwards ef i Goleg y Bala cyn iddo gael y caniatâd hwn. Aeth i'r Bala yn 1838. Rhwng 1841 a 1843 bwriodd dymhorau (bylchog, yn herwydd prinder arian) ym Mhrifysgol Edinburgh. Yn 1843, dewiswyd ef gan Lewis Edwards yn ail athro yn y Bala, a bu yno weddill ei oes. Rhoes ei waith fel athro o flaen popeth; anfynych y bodlonai i bregethu ond yng nghylch y Bala, a chafwyd trafferth fawr i gael ganddo sgrifennu i'r Traethodydd pan gychwynnwyd hwnnw. Fel athro, ni bu neb mwy cydwybodol; nid ymddengys fod ynddo unrhyw wreiddioldeb, ond ymboenai gyda'r gwannaf o'i fyfyrwyr, ac odid nad oedd yn fwy cymeradwy gan y cyfangorff ohonynt na Lewis Edwards ei hunan — ond y mae'n debyg fod cyfiawnder ym marn J. Cynddylan Jones ei fod yn gwneud gormod o'r gwaith drostynt, ac mai Lewis Edwards oedd y gorau ar eu gwir les. Ordeiniwyd ef yn 1845, a bu'n llywydd y gymdeithasfa yn y Gogledd yn 1866. Priododd yn 1844 â Sarah Gee, chwaer y cyhoeddwr Thomas Gee [q.v.]. Pan gychwynnodd Gee Y Gwyddoniadur, yn 1853, perswadiodd John Parry i'w olygu; a'i gysylltiad â'r gwaith hwnnw (serch iddo farw ymhell cyn ei orffen) a'i gwnaeth yn enw cenedlaethol; yr oedd y gorchwyl o olygu gwaith o'r fath yn hollol gydnaws â'i anian ac â'i gydwybodolrwydd. Dadfeiliodd ei iechyd yn gyflym o 1865 ymlaen, a bu f. 19 Ionawr 1874.

Llyfryddiaeth:

  • Seiliwyd yn bennaf ar tt. xix-xxxviii o ragymadrodd Owen Thomas i'r Y Gwyddoniadur.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.