PARRY, JOHN (1835 - 1897), arweinydd rhyfel y degwm o 1886 ymlaen

Enw: John Parry
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1897
Rhiant: Hugh Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd rhyfel y degwm
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Crefydd
Awdur: David Thomas

Ganwyd 24 Gorffennaf 1835, yn Llanarmon-yn-Iâl, mab y Parch. Hugh Parry. Yr oedd yn saer coed, bugail, goruchwyliwr stad, llenor, a bardd, a chanddo lyfrgell nodedig o gyfoethog ac amlochrog (yn Ll.G.C. yn awr). Ysgrifennodd atodiad i Hanes y Merthyron (Thomas Jones, Dinbych), ysgrif ar ' Helynt y Degwm ' (Y Traethodydd, 1887), etc. Yr oedd yn aelod o gyngor sir cyntaf sir Ddinbych. Yr oedd yn areithiwr huawdl ac arweinydd doeth, ac anerchodd lawer o gyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr ar bwnc y tir. Bu farw 3 Mehefin 1897.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.