PARRY, ABEL JONES (1833-1911), pregethwr, diwinydd, a llenor;
g. 21 Tachwedd 1833 yn y Temperance Bach, y Rhyl, yn fab i Thomas a Susie Parry. Symudodd y teulu i Abergele ac yna i Lerpwl, lle yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, ond troes yn fuan wedyn at y Bedyddwyr. Dechreuodd bregethu yn 1854 a derbyniwyd ef i athrofa Pontypŵl. Ordeiniwyd ef yn olynydd i'r Dr. Ellis Evans [q.v.] yn Seion, Cefnmawr, yn 1858, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf coleg Llangollen. Symudodd i Great Cross Street, Lerpwl, yn 1867, ac oddi yno at y Saeson i Cloughfold (Rossendale) yn 1871. Yn 1877 galwyd ef i fod yn olynydd R. A. Jones ym Methesda, Abertawe. Symudodd i Gaernarfon yn 1885 i gymryd gofal o'r Genedl Gymreig, eithr ymsefydlodd drachefn yn eglwys Saesneg Caerfyrddin yn 1885, a dychwelodd i'w faes cyntaf yng Nghefnmawr yn 1888. Ymddeolodd yn 1893 ac aeth i fyw i'r Rhyl. Pregethodd yn gyson hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farw yn 1911. Bu'n briod ddwywaith. Ef oedd llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1896. Dylanwadodd yn drwm ar bregethu ei enwad gan iddo gynnal ysgol i bregethwyr ieuainc yn y Cefnmawr. Yr oedd ei bregethau ef ei hunan yn gelfydd. Bu'n olygydd Y Greal, Y Genedl Gymreig, a Cenhadydd Cwmtawe; a brithir y cyfnodolion â'i ysgrifau. Ei brif waith oedd ei esboniad galluog ar yr epistol at y Rhufeiniaid, 1896. Bu f. 26 Gorffennaf 1911, a chladdwyd ef yn y Rhyl.
Llyfryddiaeth:
- Hanner Canrif Llafur Gweinidogaethol y Parch. A. J. Parry;
- Spinther, iv, 75, 354;
- Y Greal, 1911, 245;
- Ser. Cymru, Awst a Medi 1911.
Awdur:
Y Parchedig Brifathro Tom Ellis Jones, M.A., B.D., (1900-75), Bangor