Y Bywgraffiadur Cymreig

A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z

PARRY, JOSHUA (1719-1776), gweinidog Ymneilltuol, a llenor; g. 17 Mehefin 1719 yn Llan-gan, sir Benfro, o deulu a fuasai gynt yn gefnog, ond yr oedd y tad yn un o 21 o blant. Addysgwyd Joshua Parry gan Evan Davies [q.v.] yn Hwlffordd — cyn agor yr academi yno, ac wedyn gan John Eames yn Moorfields. Bu'n weinidog yn Midhurst (1741-2), ac yna yn Cirencester hyd ei f. 6 Medi 1776. Yr oedd efallai'n fwy o lenor (ac o ffigur cymdeithasol) nag o ddiwinydd — cyfeiria Edmund Jones ato, braidd dros yr ysgwydd, yn ei ddyddlyfr 1770. Cwbl Seisnig oedd ei yrfa a'i waith, gw. yr ysgrif yn y D.N.B., seiliedig ar y Memoir, 1872, gan ei ŵyr Charles Henry Parry. Ei fab hynaf oedd CALEB HILLIER PARRY (1755-1822), meddyg, a gysylltir yn bennaf ag ysbyty Bath. Mab i hwnnw oedd Syr WILLIAM EDWARD PARRY (1790-1855), F.R.S., is-lyngesydd a gofir am ei gais i gyrraedd y Pegwn Gogleddol — a mab iddo yntau oedd EDWARD PARRY (1830-1890), esgob Dover; gw. y D.N.B. am bawb ohonynt.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.

Atodiadau a chywiriadau:

PARRY, JOSHUA (Bywg., 695) Ychwaneger fod ei fab CALEB yn feddyg o gryn fri, yn herwydd ei waith ar angina, ac ar exophthalmic goitre (efô oedd y cyntaf i ddisgrifio hwnnw). Yr oedd yn gyfaill mawr i Edward Jenner.

Awdur:

Emyr Wyn Jones, M.D., F.R.C.P., (1907-99), Pwllheli / Lerpwl

A digwydd ei enw bum gwaith yn llythyrau Jane Austen, argr. 1952.