PARRY, JOSEPH (1841 - 1903), cerddor

Enw: Joseph Parry
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1903
Priod: Jane Parry (née Thomas)
Plentyn: Joseph Haydn Parry
Plentyn: Mendelssohn Parry
Plentyn: William Sterndale Parry
Plentyn: Annie Edna Parry
Plentyn: Dilys Parry
Rhiant: Daniel Parry
Rhiant: Elizabeth Parry (née Richards)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Gwilym Prichard Ambrose

Ganwyd 21 Mai 1841 ym Merthyr Tydfil. Deg oed ydoedd pan aeth i weithio mewn pwll glo, a 12 oed yn dechrau gweithio mewn gwaith haearn. Fe'i magwyd mewn awyrgylch gerddorol; canai alto mewn oratorïau a berfformid gan gôr Rosser Beynon. Yn 1854 symudodd gyda'i rieni i Dannville, Pennsylvania, U.D.A., lle y bu'n gweithio mewn melinau-rholio-haearn hyd 1865, ac astudio harmoni yn ei oriau hamdden. Enynnodd ei fedr yn ennill ar gyfansoddi mewn eisteddfodau cenedlaethol yn 1863 a 1864 frwdfrydedd y cyhoedd, a chodwyd cronfa a'i galluogodd i fyned i'r Royal Academy of Music (1868-71). Wedi iddo ddychwelyd i Danville sefydlodd ysgol gerdd yno. Dewiswyd ef yn athro cerdd (a phennaeth adran newydd cerdd) yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth; daliodd y swydd hon o 1874 hyd 1880. Yn 1878 graddiodd yn Mus. Doc. (Cantab.) Erbyn hyn yr oedd yn cael galwadau mynych i weithredu fel beirniad cerddorol; yr oedd hefyd yn brysur gyda'i efrydwyr ac yn cynnal cyngherddau y cynhwysid ynddynt lawer o'i gynhyrchion ef ei hun. O 1881 hyd 1888 bu'n gweithio yn Abertawe - yn organydd capel Ebenezer ac yn bennaeth coleg cerdd a sefydlasai yno. Yna, o 1888 hyd y bu farw, bu'n ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifathrofaol Caerdydd.

Yr oedd Joseph Parry yn gyfansoddwr toreithiog - yn cynhyrchu (a hynny gyda rhwyddaneb) caneuon, cytganau, anthemau, tonau, a rhai gweithiau offerynnol. Cyfansoddodd amryw operâu; cawsai ei opera 'Blodwen' (1880) ei pherfformio tua phum cant o weithiau erbyn 1896. Ymysg ei weithiau mwyaf y mae oratorïau ('Emmanuel,' 1880; 'Saul,' 1892) a chantata ('Nebuchadnezzar,' 1884). Darlithiai lawer ac ysgrifennai'n fynych i gylchgronau. Yr oedd ei yrfa ramantus, ei ddiwydrwydd diflino, ei dalent rwydd, a'i addysg broffesiynol, yn ei wneuthur yn ffigur blaenllaw ym myd cerddorol Cymru yn ei gyfnod. Daeth ei dôn 'Aberystwyth' yn glasur. Bu farw 17 Chwefror 1903 ym Mhenarth, gerllaw Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.