PARRY, RHISIART (1665?-1749), bardd;
tybir ei fod yn frodor o Dyserth, sir Fflint. Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hefyd yn Blodeu-Gerdd Cymry a'r Cydymaith Diddan. Barddoniaeth rydd yw'r rhan fwyaf ohoni — carolau plygain a gwahanol faledi. Nid yw'n glir ai'r un gŵr yw ef â'r Richard Parry, athro ysgol yn y Roe Wen, y cyfeirir at ei waith yn Bibliog. of Welsh Ballads. Dywedir iddo f. yn 1749 yn 83 mlwydd oed a'i gladdu wrth gongl ogleddol eglwys plwyf Dyserth.
Llyfryddiaeth:
- Cwrtmawr MS. 230 (34);
- N.L.W. MS. 1238 (64);
- C. Ashton, H. Llen. Gymr. (Ashton), 181;
- Enw. F..
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni