PARRY, RICHARD (‘Gwalchmai ’; 1803-1897), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor;
g. 19 Ionawr 1803 yn Llannerch-y-medd. Cwriwr a lledrwr oedd Richard Parry ei dad; hanoedd ei fam (Margaret Williams) o Walchmai ac yr oedd iddi gryn gynhysgaeth ar ôl ei theulu; brawd iddo oedd Thomas Parry (1809-1874 [q.v.]); Methodistiaid oeddynt. Cafodd addysg elfennol dda mewn ysgol eglwysig a oedd yno ar y pryd. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed i fyned yn brentis o gyfrwywr. Ymddiddorai mewn llyfrau, a daeth yn amlwg yng ngwaith y capel; dewiswyd ef yn flaenor yn ieuanc, ac yn y cyfnod hwn dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau. Yn 1829 daeth ‘Caledfryn’ yn weinidog i'r Annibynwyr yn Llannerch-y-medd, ac aeth y ddau yn gyfeillion mawr; ‘Caledfryn’ a'i dysgodd i gynganeddu. Cyn hir troes at yr Annibynwyr a chyda hwy y dechreuodd bregethu. Yn 1836 ordeiniwyd ef yn gyd-weinidog â Robert Roberts, Treban, ym Mryngwran; yn 1838 symudodd i ofalu am eglwysi Henryd a Chonwy a bu yno 10 mlynedd. Oddi yno yn 1848 symudodd i Lanymddyfri, ond nid ymddengys iddo fod yn gartrefol yno, a dychwelodd i'r Gogledd i Ffestiniog i ofalu am eglwysi y Llan a Bethania yn 1850. Wedi pedair blynedd daeth yn ei ôl drachefn i Gonwy. Rhoddasai ei fryd ar sefydlu eglwys yn Llandudno a oedd bryd hynny yn cyflym ddatblygu yn gyrchfan ymwelwyr haf a symudodd yno. Llwyddodd drwy gymorth Saeson cefnog i godi yno gapel hardd at wasanaeth y Saeson a'r Cymry. Ymddeolodd yn 1881. Bu f. 7 Chwefror 1897 a chladdwyd ef ym mynwent Llanrhos, Llandudno. Bu'n un o gyd-olygwyr Y Dysgedydd o 1853 i 1864. Enillodd 10 o gadeiriau eisteddfodol a llu o wobrau eraill. Cyhoeddodd Adgofion am John Elias, 1859; Enwogion Môn, 1877; Glan Geirionydd, gyda nodiadau; Yr Adroddiadur Barddonol, 1877; a History of Ancient Eisteddfodau. Odid y bu'r un o wŷr amlwg y 19eg g. mor gynhyrchiol ag ef; ysywaeth ychydig o'i waith sydd ag iddo werth arhosol. Cynrychiolai ei gyfnod a ystyriai ‘ennill mewn eisteddfod yn wrhydri ynddo'i hun, a'r prawf o fawredd bardd oedd cael tynnu ei lun â chlwstwr o fedalau ar ei ddwyfron.’
Llyfryddiaeth:
- Peris Williams (gol.), Cofiant a Gweithiau Gwalchmai, 1899;
- H.E.A.C., ii, 478; iii, 325, 328, 330, 594;
- Cymru (O.M.E.), xii, 149-52; xvi, 318; xxii, 212-5;
- T. Parry, H. Llen. Gymr., 267;
- N.L.W. MSS. 5668-5772.
Awdur:
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor