PARRY, ROBERT (fl. 1540?-1612?), awdur a dyddiadurwr

Enw: Robert Parry
Priod: Dorothy Parry (née Panton)
Rhiant: Elin ferch Rhys Wynn ap Gruffydd ap Madog Fychan
Rhiant: Harry ap Robert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a dyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Mab Harry ap Robert (o deulu Parry, Tywysog, plwyf Henllan, sir Ddinbych) a'i wraig Elin, ferch Rhys Wynn ap Gruffydd ap Madog Fychan, Ffynogion. Priododd Dorothy, ferch John Wynn Panton. Yr oedd yn un o'r gwŷr a dalai wrogaeth i Salsbrïaid pwerus Llewenni, sir Ddinbych; yr oedd ei nai, John Parry, yn briod ag Oriana, merch Syr John Salusbury, a chanodd Robert Parry farwnad (Saesneg) pan fu farw ei gyfnither, Catherine o'r Berain, mam Syr John gweler Christ Church (Oxford) MS. 184 (copi ffacsimili yn NLW MS 6496C ). Y mae ei ddyddiadur (N.L.W. Plas Nantglyn MS. 1), yn dangos i Parry drafaelio cryn lawer; yr oedd yn aml yn Llundain a threiliodd chwe mis yn yr Eidal yn 1600. Yn 1595 cyhoeddodd nofel mewn prôs - Moderatus, the most delectable and famous Historie of the Black Knight, a gyflwynwyd i ' Henry Townshend … one of her Maiesties Iustices of Assise of the countie Pallatine of Chester, and one of her Highnesse honourable Counsell, established in the marches and principality of Wales.' Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymddangosodd gwaith arall o'i eiddo sydd yn neilltuol o brin (copi ffacsimile yn Ll.G.C.) - Sinetes Passions vppon his fortunes, offered for an Incense at the shrine of the Ladies which guided his distempered thoughtes. The Patrons patheticall Posies, Sonets, Maddrigals, and Roundelays. Cyflwynwyd hwn i Syr John Salusbury, ' Esquier for the Bodie ' i'r frenhines Elizabeth. Salusbury yn wir, yw awdur rhan fwyaf yr adran o'r llyfr sydd yn cynnwys y ' Patrons patheticall Posies '; am ymdriniaeth ar ystyr a phwysigrwydd (i raddau) y caniadau hyn gan Salusbury gweler Carleton Brown, The Poems of Sir John Salusbury and Robert Chester (Brynmawr, U.D.A., 1913 a Llundain, 1914). Awgrymodd awdur yr ysgrif ar Parry yn y D.N.B. y gall mai Robert Parry ydyw'r 'R.P.' a fu'n cydweithio â Margaret Tyler yn y gwaith o gyfieithu (o'r Sbaeneg wreiddiol gan D. Ortunez de Calahorra, P. la Sierra, a M. Martinez), y gwaith a deitlwyd yn Mirrour of Princely Deeds and Knighthood; bu 'R.P.' yn gyfrifol am dair rhan (yr ail, y drydedd, a'r bedwaredd) allan o'r naw rhan a gyhoeddwyd, bob un ar ei ben ei hun, nes cwplâwyd y gwaith yn 1601. Y mae dyddiadur Parry yn bur werthfawr o safbwynt hanes teuluol a lleol Gogledd Cymru; teifl beth golau ar hanes cyfoes Prydain hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.