PARRY, ROBERT (‘Robyn Ddu Eryri ’; 1804-1892), bardd;
g. yng Nghaernarfon, 7 Chwefror 1804, ei dad yn deiliwr, yn feddyg esgyrn, ac yn dipyn o brydydd. Bu yn ysgol Evan Richardson [q.v.] am ysbaid, a chafodd Peter Bailey Williams [q.v.] yn noddwr cynnar, ac Arthur Jones [q.v.], Bangor, yn noddwr diweddarach. Eithr ni afaelodd o ddifrif mewn unrhyw alwedigaeth; dywed John Davies (‘Gwyneddon’) [q.v.] amdano, ‘gan nad oedd wedi dysgu crefft ac nad oedd ganddo foddion gweledig at ei gynhaliaeth, aeth o amgylch y wlad i glera.’ Bu'n cadw ysgol mewn gwahanol fannau, yn darlithio ac yn pregethu, yn siarad dros y Mormoniaid, yn glerc mewn swyddfa cyfreithiwr, ac, o 1850 hyd tua 1852, yn olygydd Y Wawr, a gyhoeddid yng Nghaerdydd. Bu yn America yn darlithio, a daeth i gryn amlygrwydd yng Nghymru fel areithiwr ar ddirwest. Amheuai rhai ei gywirdeb, ond barn ‘Gwyneddon,’ a oedd yn ei adnabod yn dda, oedd iddo gael cryn lawer o gam, ac mai meddalwch oedd ei fai mwyaf. Ysgrifennodd lawer o brydyddiaeth, a chyhoeddodd Hugh Humphreys, Caernarfon, gyfrol o'i waith, Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu, yn 1857. Ei hunangofiant yn y gyfrol honno, er mor wasgarog ydyw, yw'r peth gorau yn y llyfr. Bu'n cynorthwyo Arthur Jones gyda'i gyfieithiad o The Life of Christ (Fletcher): dywed ‘Gwyneddon’ mai ei eiddo ef yw y rhan fwyaf o'r cyfieithiad. Bu f. yn 88 mlwydd oed, yn Llwydlo, 4 Tachwedd 1892, a chladdwyd ef ym mynwent Ludford. Y mae llsgrau. ganddo yn llyfrgell Coleg y Gogledd — Bangor MSS. 636, 752-5, 978, 1286, 1549, 3839, 4870, 5277.
Llyfryddiaeth:
- Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri (Caernarfon, 1857);
- Gen. (Gŵyl Dewi), 1893, 32, 46;
- Cymru (O.M.E.), iii, 257.
Awdur:
Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A