PARRY, ROBERT (bu f. 1863), bardd;
g. y mae'n debyg yn Llanbrynmair, yn fab i Robert Parry, curad y plwyf, a'i wraig Mary, ferch John Jones o Esgair Ifan; symudodd y teulu yn ei blentyndod i Eglwys-bach, sir Ddinbych, pan gafodd y tad fywoliaeth Eglwys-bach, 1810-26 (Thomas, S. Asaph, ii, 311). Bwriadai yntau fynd yn glerigwr a chafodd addysg at hynny, ond newidiodd ei feddwl ac am y rhan fwyaf o'i oes bu'n amaethu Plas Efenechtyd a Plas Towerbridge, ger Rhuthyn. Ceir amryw ddarnau o'i farddoniaeth yn y gwahanol gylchgronau. Ef oedd yr ail ar yr awdl, ‘Gwledd Belsassar,’ yn eisteddfod Dinbych, 1828. Bu f. yn 1863, a chladdwyd ef yn Eglwys-bach.
Llyfryddiaeth:
- Asaph (Em. W.);
- R. Williams, Mont. Worthies;
- Enw. F.;
- N.L.W. MS. 9269.
Awdur:
Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor