PARRY, THOMAS (bu f. 1709), gweinidog y Bedyddwyr Neilltuol
yn Llaneigon a'r Gelli yn nyddiau'r Adferiad a chyfnod cynnar Deddf Goddefiad. Yr oedd yn arwyddo cofnodion cymanfa'r Fenni yn 1653 a chofnodion cymanfa Llanwenarth yn 1705; rhwng y blynyddoedd hynny bu mewn dwfn brofedigaethau oherwydd y cyfreithiau celyd, fel y prawf ei ymddangos aml o flaen llys ‘consistory’ Aberhonddu. Trigai yn y Wenallt ger Llaneigon. Adroddir am ei gyfeillgarwch â Vavasor Powell, ond nid ar ryw seiliau sicr iawn; a dywedir hefyd iddo fugeilio Bedyddwyr gogledd Brycheiniog a gorllewin Maesyfed, ond rhaid yw cofio bod aroglau trwm o Arminiaeth a rhydd-gymundeb ar y Bedyddwyr hynny, ac mai Bedyddiwr caeth oedd Thomas Parry. Anaml y cyfeirir ato heb ddyfynnu'r rhigwm a'i cymhara'n ffafriol iawn fel pregethwr ag offeiriad y Gelli.
Llyfryddiaeth:
- Joshua Thomas, Hanes y Bed. (arg. Pontypridd), 152-4, 157-8;
- Spinther, ii, 438-9.
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor