Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, THOMAS (‘Llanerchydd ’; c.1809-1874), bardd; mab Richard a Margaret Parry o Lannerch-y-medd, sir Fôn, a brawd i Richard Parry (‘Gwalchmai’) [q.v.]. Cyfrwywr oedd wrth ei grefft, a bu'n amlwg ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Llannerch-y-medd. Bu hefyd yn ddiacon ac yn ysgrifennydd yn y capel Annibynnol yn y pentref am amser hir. Ond fel bardd y cofir amdano yn bennaf. Enillodd ei wobr gyntaf yn eisteddfod Llannerch-y-medd yn 1835 am farwnad i'r Parch. John Richards, a bu'n fuddugol lawer tro yn ystod yr 20 mlynedd dilynol yn eisteddfodau Llundain, y Fenni, Merthyr Tydfil, Rhuddlan, a mannau eraill. Wedi cystudd byr, bu f. 11 Tachwedd 1874 yn 65 oed, gan adael ar ei ôl weddw a merch, a chladdwyd yn Llannerch-y-medd.

Llyfryddiaeth:

  • Richard Parry (‘Gwalchmai’), Enw. Môn, 115-6;
  • Herald Cymr., 20 Tachwedd 1874;
  • Ser. G., 1835, 215-6;
  • Gen., xxii, 62 g.; xxiv, 34; xxvii, 21 g.; xxviii, 29 g.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth