Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, WILLIAM (bu f. 1585), cynllwynwr Catholig. Mab i Henry ap David, Llaneurgain, sir y Fflint, oedd Parry, mwy na thebyg. I ddianc rhag ei ofynwyr gwasnaethodd Burghley fel ysbïwr ar y Pabyddion, a chroesodd i'r Cyfandir yn 1571, 1579, a 1582. Daeth ef ei hun i gydymdeimlo â Chatholigiaeth, ac argyhoeddwyd ef fod yn rhaid lladd Elisabeth. Datguddiodd un o'i gyd-gynllwynwyr fod Parry yn ymhel â chynllwyn yn ei herbyn wedi iddi gondemnio mesur yn erbyn y Jesiwitiaid, yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1584. Dyfarnwyd ef yn euog, ac fe'i dienyddiwyd, 2 Mawrth 1585. Amheuir a oedd ef yn euog, ac yn fwy fyth a oedd yn ddigon penderfynol a galluog i gario allan ei gynllwyn.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • P. Hughes, Rome and the Counter-Reformation, 222-6;
  • D. Mathew, The Celtic Peoples and Renaissance Europe, 237-8;
  • D. Williams, A History of Modern Wales, 71.

Awdur:

Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe