Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, WILLIAM (c.1742-1791), peintiwr portreadau; mab John Parry, ‘y telynor dall’ [q.v.]. Yn ôl pob tebyg g. ef yn Llundain wedi i'w dad symud yno o Riwabon, ac astudiodd yn ysgol arlunio Shipley, yn oriel dug Richmond, a'r academi yn St. Martin's Lane, cyn dyfod yn ddisgybl i Syr Joshua Reynolds. Enillodd amryw o wobrwyon Cymdeithas y Celfyddydau, ac etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Unedig yr Artistiaid. Wedi treulio peth amser yn peintio ger Rhiwabon, galluogwyd ef trwy haelioni ei noddwr, Syr Watkin Williams-Wynn, i fyned i'r Eidal yn 1770. Dychwelodd i Brydain yn 1775, ac yn 1776 etholwyd ef yn A.R.A. Portreadau lled fychan eu maint oedd mwyafrif ei ddarluniau, ac yn ystod y blynyddoedd o 1776 i 1788 derbyniwyd 22 ohonynt ar gyfer arddangosfeydd yr Academi Frenhinol. Bu f. gwraig Parry, merch y pensaer Henry Keene, yn 1779, a threuliodd ef lawer o'i amser ar ôl hynny yn Rhufain. Dychwelodd i Gymru yn gynnar yn 1791, a bu f. 13 Chwefror yr un flwyddyn.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Graves, R.A., vi, 63.

Awdur:

Miss Megan Ellis, (1906-2001), Aberystwyth