PENSON, RICHARD KYRKE (1815? - 1885), pensaer

Enw: Richard Kyrke Penson
Dyddiad geni: 1815?
Dyddiad marw: 1885
Priod: Clara Maria Penson
Rhiant: Frances Penson (née Kirk)
Rhiant: Thomas Penson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 19 Mehefin 1815 yn Owrtyn, Fflint, yn fab i Thomas Penson, 'county surveyor' siroedd Dinbych a Maldwyn, a Frances (ganwyd Kirk).

Dilynodd gamre ei dad, ac yn 1857 daeth yn 'county surveyor' Caerfyrddin a Cheredigion; yr oedd hefyd yn arlunydd mewn dyfr-liw, ac yn hynafiaethydd (F.S.A. ac aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru). Ef a atgyweiriodd blasau Dinefwr a'r Bronwydd; ac atgyweiriodd gryn ddau ddwsin o eglwysi yn hen esgobaeth Tyddewi, heb sôn am godi persondai ac ysgolion.

Clara Maria oedd enw ei wraig. Trigai yng Nghilyrychen, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin, yn 1871. Bu farw yn Llwydlo, 22 Mai 1885, 'yn ei 71 fl.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.