PERROTT, THOMAS (bu farw 1733), athro academi Caerfyrddin

Enw: Thomas Perrott
Dyddiad marw: 1733
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro academi Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Credir mai yn Llan-y-bri y ganwyd ef; yr oedd ganddo frawd, John, a enwyd yn ddarpar-olynydd iddo fel ysgolfeistr yn Nhrelawnyd (T. A. Glenn, Newmarket Notes, ii, 20), a nai a fu yn academi Caerfyrddin. Er nad yw ei enw yn rhestr Wilson (copi yn NLW MS 373C ) o fyfyrwyr Caerfyrddin dan William Evans, gellir yn hawdd gredu David Peter pan ddywed iddo fod dan addysg hwnnw, a chymryd mai ysgol ramadeg William Evans a feddylir, ac nid yr academi. Ond y mae'n berffaith sicr iddo fod yn y Fenni dan Roger Griffith, ac wedyn yn Amwythig dan James Owen. Urddwyd ef yn weinidog yn Knutsford, 6 Awst 1706, gan Matthew Henry. Bu wedyn yn Nhrelawnyd ('Newmarket,' Sir y Fflint) yn weinidog ac yn athro ysgol elusennol John Wynne; nid yw'r dyddiadau'n sicr, ond yr oedd yn arwyddo cytundeb yno yn 1712 (Glenn, loc. cit.), ac wedi mynd oddi yno pan gasglwyd rhestrau John Evans, tua 1714-5. Gwyddom mai yn Bromborough yr oedd pan symudodd i Gaerfyrddin. Ar 2 Chwefror 1718/9 sonia cofnodion y Bwrdd Presbyteraidd am drefnu i dalu £10 y flwyddyn iddo os â'i i Gaerfyrddin. Yn ôl W. D. Jeremy, aeth yno yn 1719, ond yn ôl McLachlan yr oedd eto yn Bromborough yn 1720, ac ategir hynny gan 'gywiriad' (A History of Carmarthenshire, ii, 174) yn rhestrau John Evans - ' Thomas Parrot, 1720.' Bu farw 26 Rhagfyr 1733. Rhydd ei gydfyfyriwr Jeremy Owen glod uchel iddo fel gŵr dysgedig, amhartïol, a chymedrol ei olygiadau. Barnwyd yn fynych (mor fore â ieuenctid Joshua Thomas - gweler Hanes y Bed., 185) mai ' Arminiaeth Perrott a droes gynifer o'i fyfyrwyr oddi wrth Galfiniaeth. Mewn gwirionedd, ymddengys nad oedd ef ond ' Baxteriad '; ac nid yw'n fwy rhesymegol priodoli golygiadau Jenkin Jones a Samuel Thomas i ddysgeidiaeth uniongyrchol eu hathro nag a fyddai rhoi'r cyfrifoldeb am Ariaeth Richard Price a Jenkin Jenkins. ar ysgwyddau'r Calfin hynod lym Vavasor Griffiths. Ond y mae mwy o le i farnu mai gwendid Perrott fel disgyblydd a ddug anfri ar yr academi yn ei gyfnod ef. Y mae'n eglur fod nifer y myfyrwyr wedi cynyddu braidd ormod iddo gadw trefn arnynt hyd yn oed pe na byddem yn barod i gredu Wilson (N.L.W. Add. MS. 373) fod dros 150 o fyfyrwyr Ymneilltuol, 'a chynifer, neu fwy, o Eglwyswyr,' wedi bod dano. Annisgyblaeth a barodd i Vavasor Griffiths symud yr academi i'r wlad. Cytunir fod Perrott yn boblogaidd iawn, fel athro ac fel gweinidog yn Heol Awst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.