PETER, DAVID (1765 - 1837), gweinidog Annibynnol a phrifathro Coleg Caerfyrddin

Enw: David Peter
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1837
Priod: Sarah Peter (née Lewis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol a phrifathro Coleg Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Aberystwyth, 5 Awst 1765, a'i addysgu yn ysgolion Troedyrhiw a Chastell Hywel, Ceredigion. Dan weinidogaeth Benjamin Evans, Trewen, gogwyddodd at Annibyniaeth. Ymaelododd ym Mhenrhiwgaled, 1783. Bu yn academi Caerfyrddin yn Rhydygors yn 1783, ac yn cadw ysgol yn Saint Ismael, Sir Benfro, yn ystod 1784. Penderfynodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr a dechrau pregethu ym Mhenrhiwgaled. Penodwyd ef yn athro cynorthwyol i'r prifathro William Howell yn Abertawe, 1789. Cafodd alwad o eglwys Heol Awst, Caerfyrddin, 9 Rhagfyr 1791, a'i ordeinio yno 8 Mehefin 1792. Ymhlith arwyddwyr ei alwad yr oedd Sarah Lewis (ei briod gyntaf wedyn) a John Ross, yr argraffydd enwog. Bu'n brifathro Coleg Caerfyrddin, 1795-1835. Pennod fawr gyntaf ei weinidogaeth yn Heol Awst oedd sefydlu'r drefn Annibynnol yno; daeth yr eglwys yn fuan y gryfaf yn yr enwad, a helaethwyd y tŷ cwrdd ddwy waith, yn 1802 a 1826. Er na feddai ddawn huawdl y pregethwr poblogaidd, anrhydeddid ef fel pregethwr sylweddol, ymarferol, ac efengylaidd, a safai yn rheng flaenaf arweinyddion mudiadau ei gyfnod. Bu ei Hanes Crefydd yng Nghymru yn brif ffynhonnell hanes crefydd yng Nghymru am dymor hir. Bu farw 4 Mai 1837.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.