PETER o LEE ('de Leia') (bu farw 1198), esgob Tyddewi

Enw: Peter O Lee
Dyddiad marw: 1198
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ivor John Sanders

Ni wyddys ddim am ei dras na'i ddechreuad, eithr dywedir ei fod yn ewythr i Reginald Foliot, canon Tyddewi. Wedi 1170 yr oedd yn brior Much Wenlock, Sir Amwythig. Y mae llawer o'n gwybodaeth am Peter â gogwydd rhagfarn arno gan mai o ysgrifeniadau Gerallt Gymro y daw; trechwyd Gerallt gan Peter pan oeddid yn ethol esgob Tyddewi yn 1176. Dywed Gerallt i'r esgob gael ei wthio ar Gymru gan frenin gormesol Lloegr, gorfod iddo gadw draw o Dyddewi oherwydd cweryla ohono gyda'r Cymry a chyda chabidwl yr eglwys gadeiriol, ac iddo hefyd fethu ymladd dros hawl Tyddewi i fod yn bennaf esgobaeth yng Nghymru ac yn annibynnol ar Gaergaint. Dywedir hefyd i'r arglwydd Rhys, ychydig cyn iddo farw, gael ei esgymuno gan yr esgob ac na ellid mo'i gladdu yn Nhyddewi ond ar ôl i'w gorff marw gael 'gollyngdod.' Y mae lle i gredu, yn weddol gryf, i Peter ddechrau ailadeiladu, yn 1181-2, yr eglwys gadeiriol a ddistrywiasid. Y mae'n sicr ei fod yn absennol o Dyddewi am gyfnodau hir gan ei fod yn ddiwyd yng nghynghorau'r brenin a gyda busnes y brenin. Yn 1184 enwyd ef gan fynachod Caergaint, eithr heb lwyddiant, i fod yn archesgob. Yn 1188 cymerodd arno arwydd y groes eithr cafodd ollyngdod yn 1189. Bu farw 16 Gorffennaf 1198; dywedir fod ei gofadail yn eglwys gadeiriol Tyddewi yn yr eil y tu dehau i'r allor fawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.