PHILLIPS, DAVID (1812 - 1904), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a golygydd

Enw: David Phillips
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: Joshua Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 14 Rhagfyr 1812 ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin, mab y Parch. Joshua Phillips (1785 - 1868) - yr oedd JOHN PHILLIPS (1750 - 1842), Meidrym, ei dadcu, yntau yn bregethwr Methodist adnabyddus. Symudodd yn ieuanc i Faesteg, Morgannwg, lle bu'n bostfeistr. Dechreuodd bregethu yn 1839 a bu'n fath ar fugail ar eglwys Tabor. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Aberafan, 1854. Symudodd i Abertawe yn 1873; bu farw yno 5 Mehefin 1904, a'i gladdu ym mynwent y Crug-glas. Cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi defosiynol o dan y teitl Y Dyn Crist Iesu. Bu ef a Thomas Levi yn cydolygu'r cylchgrawn i ieuenctid, Yr Oenig, 1853-6. Ceir llawer o'i gynnyrch llenyddol yng nghylchgronau'r Methodistiaid Calfinaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.