PHILLIPS, JAMES (1847 - 1907), hanesydd sir Benfro

Enw: James Phillips
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1907
Rhiant: James Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd sir Benfro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Bertie George Charles

Ganwyd 26 Mawrth 1847 yn Hwlffordd. Crynwyr oedd tylwyth ei dad, James Phillips, gwerthwr nwyddau haearn a maer y dref yn 1871. Addysgwyd ef mewn ysgol breifat ar S. Thomas's Green yn Hwlffordd, ac er bod atal dweud arno daeth yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid. Yn ddiweddar yn ei oes aeth i goleg yr Annibynwyr ym Mryste (dywed T. Witton Davies iddo fod dan ei addysg yntau yng ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd), ac yn 1889 fe'i hordeiniwyd yn weinidog y Tabernacl, eglwys yr Annibynwyr yn Little Haven, Sir Benfro, lle y bu'n gwasnaethu hyd ei farw yn ei gartref yn Hwlffordd ar 20 Tachwedd 1907. Rhyddfrydwr ydoedd, ac ymddiddorai mewn addysg leol. Bu'n gadeirydd Bwrdd Ysgol Hwlffordd, ac ar ôl 1903 yn gadeirydd rheolwyr yr ysgolion. Yr oedd yn un o lywodraethwyr yr ysgol ramadeg ac yn is-gadeirydd ysgol uwchradd Tasker. Yr oedd hefyd yn aelod o bwyllgor addysg sir Benfro o'r cychwyn ac yn henadur o'r cyngor sir. Fel awdur The History of Pembrokeshire, a gyhoeddwyd yn 1909 ar ôl ei farw, yr adwaenir ef orau. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar hanes Hwlffordd, yn bennaf yn ystod oes Elisabeth (Archæologia Cambrensis, 1895, 81-95; 1896, 193-211; 1897, 41-4, 308-23; 1898, 298-311; 1899, 269-82; 1904, 253-74), ac ar gofrestri plwyf Eglwys Fair, Hwlffordd (Archæologia Cambrensis, 1902, 115-27; 1903, 298-318; 1905, 38-61).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.