PHILLIPS, EVAN OWEN (1826 - 1897), deon Tyddewi

Enw: Evan Owen Phillips
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1897
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 27 Ebrill 1826 yn fab i William Phillips, Tre-cŵn, Sir Benfro, ac addysgwyd yn ysgol ramadeg Aberteifi. Graddiodd yn 1849 yn y dosbarth blaenaf mewn mathemateg, yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt, ac etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg. Bu'n warden ysgol Llanymddyfri o 1854 hyd 1861; yna'n ficer Llanbadarn-fawr (Aberystwyth) o 1861 hyd 1886; ac yn rheithor Treletert (Sir Benfro) o 1886 hyd 1895. Penodwyd ef yn ganon yn Nhyddewi yn 1874, yn ganghellor yr eglwys yno yn 1879, ac yn ddeon yn 1895. Bu farw 2 Mawrth 1897. Golygodd, 1877, bregethau Cymraeg yr esgob Thirlwall.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.