PHILLIPS, WILLIAM (1822 - 1905), llysieuegwr a hynafiaethydd

Enw: William Phillips
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1905
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuegwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 4 Mai 1822 yn Llanandras yn sir Faesyfed, ond tref Amwythig oedd hendre ei deulu, a bu ei hynafiaid yn fwrdeisiaid yno mor fore â 1634. Wedi bod mewn ysgol yn Llanandras, prentisiwyd ef gyda'i frawd a oedd yn deiliwr yn Stryd Fawr Amwythig ac yn berchen busnes dda y daeth yntau wedyn yn bartner ynddi. Datblygodd ddiddordeb (tua 1861) mewn llysieueg, ac fe'i gwnaeth ei hunan yn awdurdod cydnabyddedig ar lysieueg ei sir yn gyffredinol - efe a sgrifennodd y bennod ar lysieueg yn y Victoria County History of Shropshire; ond ei faes arbennig oedd ffyngoedd (fungi), ac y mae ei Manual of British Discomycetes, 1887, ffrwyth ugain mlynedd o ymchwil, yn safonol. Ymddiddorai hefyd - yn gynyddol felly - mewn hynafiaethau; yr oedd yn un o gychwynwyr y ' Shropshire Archaeology and Natural History Society,' a chyfrannodd lawer i'w thrafodion, i'r Bye-Gones, ac i Shropshire Notes and Queries, y bu'n olygydd iddo. Talodd sylw neilltuol i gyfnod y Rhyfel Cartrefol yn y sir, ac argraffodd yr ' Ottley Papers,' a recordiau'r frawdlys chwarterol o 1652 hyd 1659. Rhoes drefn ar recordiau tref Amwythig, ac am hynny cafodd 'ryddid' y dref. Ac yntau'n Fethodist, ac yn bregethwr lleyg, cyhoeddodd yn 1896 Early Methodism in Shropshire. Bu farw 23 Hydref 1905.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.