PIERCY, ROBERT (1825 - 1894), peiriannydd sifil

Enw: Robert Piercy
Dyddiad geni: 1825
Dyddiad marw: 1894
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd sifil
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Nhrefeglwys, Maldwyn, 25 Ionawr. 1825, mab hynaf Robert Piercy, a brawd Benjamin. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Waun a'i hyfforddi yn swyddfa'i dad. O 1847 i 1855 bu'n beiriannydd i'r New British Iron Company, perchnogion glofeydd a gweithfeydd o gylch Acrefair. Bu'n arolygu eu rheilffyrdd, eu glofeydd, a'u gweithfeydd, ac yn adeiladu rheilffyrdd i Riwabon. Ymunodd â'i frawd, gan fod yn gyfrifol yn bennaf am y gwaith swyddfa, i adeiladu rheilffyrdd Sir Drefaldwyn, a byw i ddechrau yn y Trallwng, ac ar ôl hynny yn Llundain. Peiriannydd ymarferol ydoedd, uwchlaw popeth; mesurydd a lefelydd hyfedr, ac iddo enw am ei allu i drin seiliau bradwrus i bontydd. Rhwng 1870 a 1879, bu'n cynorthwyo'i frawd yn Sardinia; o 1879 i 1884 yr oedd yn adeiladu Rheilffordd Assam yn India. Yno darganfu ac agorodd wely anferth o lo, a ffynhonnau olew. Dychwelodd i Loegr yn 1887, gan dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn Llundain ac ysbeidiau yn yr Yswisdir. Bu farw 29 Ionawr 1894 yn y Celyn, Caergwrle, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y Waun. Ei wraig oedd Miss Valleria a briododd c. 1874. Bu iddynt un mab a dwy ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.