POWEL, CHARLES (1712 - 1796), hynafiaethydd

Enw: Charles Powel
Dyddiad geni: 1712
Dyddiad marw: 1796
Priod: Catherine Powel (née Penry)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: John James Jones

yr olaf o hil wrywaidd Poweliaid Castell Madoc, sir Frycheiniog. Hanoedd y teulu o William Powel, bardd Cymraeg a flodeuai c. 1580-1620. Yr oedd yn hynafiaethydd gwych, a gohebai ag amryw o hynafiaethwyr mwyaf blaenllaw ei ddydd. Tynnodd ei ymchwil i hynafiaethau deheudir Cymru sylw John Strange, a gyfeiriodd at rai o ddarganfyddiadau a gosodiadau Powel mewn dwy ddarlith a draddododd o flaen y Society of Antiquaries yn 1769 a 1775, ac a gyhoeddwyd wedyn yn Archaeologia, i a v. [ Catherine Penry, aeres y Cefn-brith, oedd ei wraig.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.