POWELL, Syr, JOHN (1633-1696), barnwr

Enw: John Powell
Dyddiad geni: 1633
Dyddiad marw: 1696
Plentyn: Thomas Powell
Rhiant: John Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Glyn Roberts

Mab John Powell, Pentre Meurig, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg pan oedd yn llanc o dan Jeremy Taylor. Y mae'n debyg mai efe ydoedd y John Powell a ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu) yn 1650, ac a gymerth ei B.A. yn 1653 ac M.A. yn 1654. Aeth i Gray's Inn yn 1650. O 1683 hyd 1690 yr oedd yn gofiadur Aberhonddu ac o 1685 hyd 1686 yn is-farnwr cylchdaith Aberhonddu. Cafodd ei ddyrchafu'n farchog yn 1686 a'i ddewis yn farnwr llys y 'Common Pleas'; symudwyd ef i lys Mainc y Brenin yn 1687. Ym mis Mehefin 1688 yr oedd yn aelod o'r llys a farnodd y 'Saith Esgob' yn ddieuog a chymerwyd ei swydd fel barnwr oddi arno; cafodd ei swydd yn ôl y flwyddyn ddilynol. Bu farw 7 Medi 1696 a chladdwyd ef yn eglwys blwyf Lacharn.

Cymysgwyd Syr John Powell â Syr John Powell (1645 - 1713), Caerloyw; gweler D.N.B.

Bu ei fab THOMAS POWELL (1664 - 1720), Broadway, Sir Gaerfyrddin, a Coldbrook, sir Fynwy, yn atwrnai-cyffredinol cylchdaith Caerfyrddin, 1695-1715, yn aelod seneddol Mynwy, 1705-8, a sir Gaerfyrddin, 1710-15. Crewyd ef yn farwnig yn 1698, eithr daeth y teitl i'w derfyn pan fu ei fab Syr HERBERT POWELL farw yn 1721.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.