POWEL, JOHN neu SION (bu farw 1767), bardd gwlad a gwehydd

Enw: John Powel
Dyddiad marw: 1767
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd gwlad a gwehydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Ray Looker

O Ryd-yr-eirin ym mhlwyf Llansannan yn sir Ddinbych. Yn ôl Owen Williams, Awduron Sir Ddinbych, fe'i ganwyd yn 1731. Dywedir ei fod yn glochydd hefyd. Yr oedd yn un o gyfeillion agosaf Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') pan oedd hwnnw'n gurad yn Llanfair Talhaearn, ac edrychai arno fel athro. Ceir casgliad o'i waith yn 'Y Piser Hir' (Swansea MS. 1, yn Ll.G.C.), sef 10 cywydd ac un awdl. Ymhlith y rhain ceir cywydd ar ddioddefaint Crist, cywydd yn cwyno oherwydd na châi gweithiau'r hen feirdd ymgeledd priodol yn ei amser, cywydd marwnad i filgi, cywyddau i Siôn ap Rhisiart o Fryniog, Ieuan Owain o Ddyffryn Aur, Rhobert Burchinshaw, dau gywydd i ' Ieuan Brydydd Hir ' ac un i Dafydd Jones o Drefriw i erchi copi o'i lyfr, Y Cydymaith Diddan. Cyhoeddwyd y cywydd olaf hwn a'r llythyr a ddanfonwyd gydag ef (13 Hydref 1766) yn Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw (gol. G. J. Williams. Ceir cywyddau eraill o'i waith yn NLW MS 562B a chân rydd yn Cwrtmawr MS 230B . Nid oes unrhyw fanylion ar gael am ei fywyd, ond gwyddys iddo gael ei gladdu ym mynwent eglwys Llansannan ar 7 Mai 1767. Canodd 'Ieuan Brydydd Hir' farwnad iddo, a cheir copi ohoni yn llaw'r bardd yn Panton MS. 2; [gweler hefyd dan D. Jones, 1732 - 1782? ].

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.