POWELL, THOMAS (1572? - 1635?), twrnai a llenor

Enw: Thomas Powell
Dyddiad geni: 1572?
Dyddiad marw: 1635?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: twrnai a llenor
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd oddeutu 1572, yn frodor o Ddiserth, sir Faesyfed. Derbyniwyd ef yn efrydydd yn Gray's Inn, 30 Ionawr 1592-3, ond yr adeg honno cymerai fwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth nag yn y gyfraith. Ysgrifennodd amryw weithiau mewn rhyddiaith a barddoniaeth, ond cofir amdano heddiw am ei waith arloesol ynglŷn â chofysgrifau'r Llywodraeth. Penodwyd ef, 13 Tachwedd 1613, yn dwrnai cyffredinol yn y gororau, ond ymddiswyddodd 5 Awst 1622. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Direction for Search of Records remaining in the Chauncerie, Tower, Exchequer, etc., ac yn 1631 ei Repertorie of Records. At y gwaith hwn defnyddiodd nodiadau a gasglwyd gan Arthur Agarde, dirprwy-siambrlen yn y Trysorlys. Gweithiau cyfreithiol eraill o'i eiddo yw The Attorney's Academy, 1623, a The Attorney's Almanacke, 1627. Bu farw oddeutu 1635.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.