POWELL, THOMAS (1781 - 1842), gweinidog Annibynnol ac awdur

Enw: Thomas Powell
Dyddiad geni: 1781
Dyddiad marw: 1842
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn 1781 yn Trecastell, sir Frycheiniog. Cafodd ysgol dda yn ieuanc, a bu am gyfnod yn cadw ysgol yn Llanelli, Brycheiniog. Yn ystod yr amser hwnnw ymunodd â'r eglwys yn Llangatwg, Brycheiniog. Bu yn athrofa Wrecsam dan Jenkin Lewis o 1804 hyd 1808. Urddwyd ef yn weinidog yn Ninbych, 27 Hydref 1808. Yn ystod ei dymor yn Ninbych bu ganddo law yng nghychwyn achosion Annibynnol yn Llanelwy. Yn 1814, wedi priodi merch o deulu cefnog yn Aberhonddu, symudodd yno i weinidogaethu yn y Plough. Symudodd i Frynbuga, sir Fynwy, yn 1828, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw yno 4 Chwefror 1842. Cyhoeddodd Ym Mhlaid y Gymdeithas Genhadol, Y Cristion o fewn ychydig, Bedydd Babanod, Cyfieithiad Calfin ar y Salmau, a Gair Duw, 1821. Yr oedd yn bregethwr dawnus ac yn bersonoliaeth hoffus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.