PRICE, HUGH (1495? - 1574), sylfaenydd a noddwr cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen

Enw: Hugh Price
Dyddiad geni: 1495?
Dyddiad marw: 1574
Rhiant: Rhys ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sylfaenydd a noddwr cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Addysg; Dyngarwch
Awdur: Idris Llewelyn Foster

Ganwyd yn Aberhonddu, mab Rhys ap Rhys. Addysgwyd ef yn Rhydychen, a graddiodd fel Doethur yn y Gyfraith Ganonaidd yn 1526. Penodwyd ef yn brebendari yn eglwys gadeiriol Rochester yn 1541 a bu yn y swydd am weddill ei oes. Yn 1571 gwnaed ef yn drysorydd eglwys gadeiriol Tyddewi. Penderfynodd ddefnyddio'i arian a'i stad i sefydlu coleg newydd yn Rhydychen, ac anfonodd gais at y frenhines Elisabeth. Rhoddwyd braint coleg i'r gymdeithas newydd hon 27 Mehefin 1571 - y coleg cyntaf i'w sefydlu yn Rhydychen ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Mynegir yn y fraint hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel y noddwr cyntaf. Ond yn ôl ewyllys Price y mae'n amlwg ei fod yn ei ystyried ei hun fel y sylfaenydd; gadawodd eiddo gwerth £60 y flwyddyn i'r coleg. Bu farw ym mis Awst (gwnaeth ei ewyllys 8 Awst; profwyd hi 31 Awst) 1574, a chladdwyd ym Mhriordy Aberhonddu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.