PRICHARD, JOHN (1796 - 1875), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr

Enw: John Prichard
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1875
Rhiant: Jane Prichard
Rhiant: John Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Tom Ellis Jones

Ganwyd 25 Mawrth 1796 yn fab i John a Jane Prichard, Tanygraig, Llaneilian, Amlwch. Symudodd y teulu i Landudno a gweithiai yntau yn y mwynglawdd yno nes casglu digon o arian i fyned i ysgol Toxteth Park, Lerpwl. Dychwelodd i Landudno a bu yn cadw ysgol yno am gyfnod. Ymaelododd gyda'r Bedyddwyr yn 1816 a dechreuodd bregethu yn 1819 gan fyned i athrofa'r Fenni yn 1821. Ordeiniwyd ef yn Llangollen yn 1823 a bu yno weddill ei oes, a John Jones ('Mathetes') a Hugh Jones yn eu tro yn cydweinidogaethu ag ef. Bu yn gyfrwng i sefydlu nifer o eglwysi newyddion yn y cylch. Ymddeolodd o ofal yr eglwys yn 1866. Sefydlwyd coleg y Bedyddwyr yn Llangollen yn 1862 a gwahoddwyd John Prichard i fod yn bennaeth ac yn athro diwinyddol ynddo, a Hugh Jones yn athro clasurol. Bu farw 7 Medi 1875. Yr oedd yn bregethwr, athro, llenor, ac areithiwr. Rhoes wasanaeth clodwiw i fudiadau dyngarol ac anerchodd ugeiniau o gyfarfodydd o blaid heddwch, dirwest, rhyddhad y caethion, addysg rydd, a diddymiad deddf yr ŷd. Cyhoeddodd amryw holwyddoregau a phregethau, ac un llyfr emynau i blant. Ef oedd awdur cofiannau Hugh Jones, Ruthin, a Hugh Williams, Amlwch. Ysgrifennai'n gyson i'r cylchgronau. Cyhoeddodd ei brif waith o dan y pennawd Diddymiad yr Hen Gyfamod a dygiad i mewn y Cyfamod Newydd yn 1869. Ef oedd un o brif ysgogwyr cychwyn Y Tyst Apostolaidd a Greal Llangollen a bu yn gyfrifol am Yr Athraw am hanner can mlynedd namyn dwy. Perchid ef fel arweinydd medrus, pregethwr galluog, diwinydd craff, ac athro da.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.