PRICE, JOHN ('Old Price'; 1803 - 1887), clerigwr, naturiaethwr, hynafiaethydd, a 'chymeriad'

Enw: John Price
Ffugenw: Old Price
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: James Pryce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, naturiaethwr, hynafiaethydd, a 'chymeriad'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1803 ym Mhwll-y-crochan, Bae Colwyn, yn ddisgynnydd i res hir a hir-hoedlog o glerigwyr. Ei hendaid oedd Ellis Pryce, a fu'n rheithor Ysgeifiog bron 60 mlynedd (1704-1763); ei daid oedd James Pryce,, ficer Betws-yn-Rhos 1746-58, a rheithor Llansannan 1758-82; a'i dad oedd James Pryce, a fu'n rheithor Cerrig-y-drudion o 1784 hyd 1800, ac wedyn am hanner canrif (1800-50) yn rheithor dibreswyl Llanfechain ym Maldwyn, gan fyw ym Mhwll-y-crochan a Phlas-yn-Llysfaen, a marw'n 94 'wedi cwyno ar ei iechyd ar hyd ei oes'; claddwyd y tri gwrda hyn yn Ysgeifiog. Anfonwyd John Price i ysgol Amwythig, lle'r oedd yn yr un dosbarth â B. H. Kennedy, ac yn yr ysgol ar yr un pryd â Charles Darwin, a symbylodd ei ddiddordeb mewn natur ac a fu'n gyfaill mawr iddo wedyn. Graddiodd o Goleg S.John's yng Nghaergrawnt yn 1826, yn drydydd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron. Ond serch iddo fod yn athro am gyfnod yn ei hen ysgol, ac mewn mannau eraill, datblygodd ansefydlogrwydd ac odrwydd mewn gwisg ac ymarweddiad (ymfalchïai yn ei lysenw 'Old Price') na chydweddent â gyrfa o'r math arferol. Cyhoeddodd amryw lyfrau (sydd bellach yn hynod brin), megis Llandudno, and how to enjoy it, 1869, ac Old Price's Remains , misolyn od i'w ryfeddu (Ebrill 1863-Mawrth 1864), sy'n llawn diddordeb i breswylwyr Llandrillo-yn-Rhos a'r cyffiniau. Ef hefyd a gyfrannodd y bennod ar natur i History of Aberconwy Robert Williams. Bu farw yng Nghaerlleon Fawr, 14 Hydref 1887, yn 84 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.