Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS JEFFERY LLEWELYN (bu farw 1875?), actiwr ac awdur

Enw: Thomas Jeffery Llewelyn Prichard
Dyddiad marw: 1875?
Priod: Naomi Prichard (née Jones)
Rhiant: Ann Prichard
Rhiant: Thomas Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd ym mhlwyf Trallong, sir Frycheiniog. Gwyddys iddo gymryd rhan mewn dramâu a chwaraeid gan actorion crwydrol yn Aberystwyth ac yn Aberhonddu (e.e. 1841); dywedir hefyd iddo fod am gyfnod yn catalogio llyfrau Lady Llanover (Lady Hall y pryd hwnnw) yn ei chartref hi yn sir Fynwy. Y gwaith y cysylltir ei enw ag ef fynychaf erbyn hyn yw The Adventures and Vagaries of Twm Shôn Catti , a gyhoeddwyd gyntaf yn Aberystwyth ('Printed for the Author by John Cox ') yn 1828. Cafwyd llawer o argraffiadau wedi hynny - yn yr ail (y Bont-faen) ceir rhagair gan yr awdur wedi ei ysgrifennu yn Llanfairmuellt a chyfeiriadau ynddo at William Owen Pughe, David Owen ('Brutus'), a W. J. Rees, Cascob; o Lanidloes y daeth y trydydd argraffiad (awdurdodedig) yn 1871, yn cael ei ddilyn gan argraffiad Cymraeg o'r un argraffwasg, 1872, y cyfieithiad gan 'Eilonydd,' sef John Evans. Cyhoeddodd Prichard y gweithiau hyn hefyd - Welsh Minstrelsy … or Cantrev y Gwaelod. A Poem (Aberystwyth, 1824), The New Aberystwyth Guide (Aberystwyth, 1824), The Cambrian Balnea: or Guide to the Watering Places of Wales, Marine and Inland (London, 1825), gydag argraffiad arall o hwn o dan yr enw The Llandrindod Guide (d.d.), The Heroines of Welsh History (London, 1854). Golygodd The Cambrian Wreath: A Selection of English Poems on Welsh Subjects (Aberystwyth, 1828), gan gyfrannu iddo beth o'i waith ei hun. Ymddengys iddo farw mewn tlodi, yn Abertawe, efallai yn 1875 neu 1876; yn ôl Cyfaill yr Aelwyd , 1887 (113 ) claddwyd ef yno ym mynwent capel y Tabernacl. Roedd yn dal yn fyw ar 24 Tachwedd 1875, dyddiad llythyr ganddo a argraffwyd yn Cymru Fu, II, v, 80.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS JEFFERY LLEWELYN

Yn 1875 neu 1876 y bu farw. Ymbriododd ar 14 Ionawr 1826 yn y Fenni, â Naomi Jones o Lanfair-ym-Muallt. Yn Cyfaill yr Aelwyd, 1887, 113, dywedir iddo gael ei gladdu ym mynwent y Tabernacl, Abertawe. Dengys dyddiad llythyr ganddo, a argr. yn Cymru Fu, II. v. 80, ei fod eto'n fyw ar 24 Tachwedd 1875.

Awdur

  • Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993)

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.