PRICE (TEULU), Rhiwlas, plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd

Y mae'r achau hynaf yn hawlio bod aelodau teulu Price, Rhiwlas, yn ddisgynyddion Marchweithian.

RHYS AP MEREDYDD Rhys Fawr (fl. 1485)

Cyndad gweddol gynnar a ddaeth yn amlwg. Preswyliai yn rhywle yng ngodre de-orllewin Mynydd Hiraethog; tybir mai hen blas y Foelas oedd ei gartref. Cododd fyddin fechan o wŷr o'r Berfeddwlad a'u harwain i faes Bosworth (1485) i ymuno â'r gwŷr o'r de a ddygid gan Syr Rhys ap Thomas. Oblegid ei wrhydri ym mrwydr Bosworth cafodd ffafrau lawer gan y brenin newydd (Harri VII). (Y mae delwau alabastr o'i gorff ef a chorff ei wraig, Lowri, yn eglwys Ysbyty Ifan.)

Daeth ei fab

Syr ROBERT AP RHYS (bu farw c.1534), clerigwr

Roedd y 'Syr' yn golygu clerigwr - un o gaplaniaid llys Harri VII, gan barhau i wasnaethu yn y swydd honno o dan Harri VIII. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd daeth i feddu llawer o dir (o fewn Dôl Gynwal) yn Ysbyty Ifan. Yn ôl llythyrau ganddo at Harri VIII daliai lawer o dir ym mhlwyf Llanfor hefyd. Mared (Margaret), merch Rhys (Rhydderch ?) Llwyd, o'r Gydros, Llanfor, oedd ei wraig, a bu iddynt lawer o blant - CADWALADR yr aer, Dr. Ellis Prys, Plas Iolyn (sir Ddinbych), Thomas Vaughan, Pant Glas, a dau fab arall a fu'n abadwyr Aberconwy, yn eu plith (Griffith, Pedigrees, 204). Bu (Syr) Robert, a fu'n gwasnaethu'r Cardinal Wolsey hefyd, farw cyn neu yn 1534, y flwyddyn y profwyd ei ewyllys (P.C.C., Canterbury). Claddwyd yntau yn eglwys Ysbyty Ifan.

CADWALADR AP ROBERT CADWALADR PRICE (bu farw 1554)

Disgrifir ef yn drydydd mab Syr Robert ap Rhys. Priododd Jane, ferch Meredydd ap Ieuan ap Robert, Gwydir. Daeth i feddu llawer o dir a berthynai ychydig cyn hynny i abaty Ystrad Marchell, gerllaw y Trallwng; fe'i disgrifir ef yn dal tiroedd yng nghwmwd Penllyn yn nheyrnasiad Philip a Mari. Anfonodd Gruffudd Hiraethog gywydd ato (c. 1530) i ofyn am fyharen dros Meistres Mostyn. Bu farw Cadwaladr ap Robert yn 1554 - mydryddir y flwyddyn mewn cywydd marwnad yn NLW MS 436B , t. 39.

JOHN WYNN AP CADWALADR AP ROBERT AP RHYS, Aelod Seneddol

Pan ymwelodd Lewis Dwnn, dirprwy-herodr, â Rhiwlas ar 21 Gorffennaf 1588, derbyniodd ach y teulu gan ' John Cadd,' h.y. ' John Wynn … mab ag aer Cadw ' y 3 mab i Robt ab Rs ' (Visitations, ii, 228, 230). Bu John Wynn yn siryf Meirionnydd, 1576-7 a 1585-6, ac yn aelod seneddol y sir, 1559. Priododd Jane, merch ac aeres Thomas ap Robert, Llwyn Dedwydd, Llangwm. Canodd Sion Tudur gywydd yn gofyn iddo roddi gwn i Humphrey Thomas, Bodelwyddan.

Mab John Wynn oedd

CADWALADR WYNN, Aelod Seneddol

Gelwir ef yn ' Cadwaladr fab Siôn ap Cadwaladr ' gan y bardd Edward Urien ac yn ' Cadwaladr Prys ' gan ddau fardd arall. Dywed W. W. E. Wynne (Breese, Kalendars, iddo fabwysiadu y cyfenw Price. Bu ef, sef Cadwaladr Price, yn aelod seneddol ei sir, 1585-6, ac yn siryf, 1592-3. Yr oedd Ieuan Tew Brydydd yn fardd teulu yn Rhiwlas ar yr adeg hon. Priododd Cadwaladr Price â Catherine, ferch Syr Ieuan Lloyd, Bodidris-yn-Iâl Eu mab hynaf oedd JOHN PRICE I (bu farw 1613), siryf Meirionnydd, 1608-9, a briododd Ann, ferch John Lloyd, Vaynol, Llanelwy, cofrestrydd esgobaeth Llanelwy. Dilynwyd John Price I gan ei fab hynaf JOHN PRICE II (bu farw 1629). (Yr oedd ROBERT PRICE, ficer Towyn, canghellor Bangor, etc., yn frawd i John Price II ?.) Priododd Elinor, merch Syr William Jones, Castellmarch, Sir Gaernarfon.

Mab hynaf y briodas oedd

WILLIAM PRICE (1619 - 1691), cyrnol ym myddin plaid y brenin

Derbyniwyd ef i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, ym mis Mai 1636. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd yn 1640 a bu'n eistedd hyd 1644 pryd y trefnwyd i'w 'analluogi' a dewis y cyrnol John Jones, Maesygarnedd, i gymryd ei le; eisteddodd eilwaith dros y sir yn 1673-9. Ymlynodd wrth achos Siarl I; dywedir, fodd bynnag, iddo ddioddef llai oblegid hynny am ei fod ef a Syr John Carter, pennaeth ym myddin plaid y Senedd, wedi priodi dwy chwaer ac i Carter ac eraill eiriol ar ei ran pan geisid atafaelu ar ei eiddo - eithr cafodd ei ddirwyo hyd £200. Efe oedd y cyrnol Price a groesawodd y dug Beaufort pan ymwelodd hwnnw â Rhiwlas yn 1684 (gweler T. Dineley, Account of the … Progress of the First Duke of Beaufort … through Wales in 1684, ynghyd â darlun o Rhiwlas yn 1684). Gwraig y cyrnol Price oedd Mary, merch a chyd-aeres i David Holland.

Bu eu mab hynaf

JOHN PRICE III (1644 - 1685)

farw yn oes ei dad ac heb adael etifedd gwryw, ac aeth y stad i'w frawd ROGER PRICE (1653/4? - 1719), siryf Meirionnydd 1709-10, a Sir Gaernarfon 1710-11. Bu ef farw 17 Hydref 1719. Ei wraig ef oedd Martha, merch Robert, is-iarll Bulkeley, Baron Hill, sir Fôn.

Mab iddynt hwy oedd

WILLIAM PRICE II (1690 - 1774), hynafiaethydd

Ymaelododd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1707, yr oedd yn siryf Meirionnydd, 1730-31, a Sir Gaernarfon, lle yr oedd ganddo diroedd lawer, 1731-2. Yr oedd yn hynafiaethydd; y mae llythyrau a ysgrifennodd, 1745-57 at Charles Lyttelton, esgob Carlisle, a hynafiaethydd, yn delio â hynafiaethau ac ag eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala yn 1747, i'w gweled yng nghasgliad Stowe yn yr Amgueddfa Brydeinig. Canodd pump o feirdd englynion iddo yn eisteddfod y Bala, 1738. Priododd (1), Mary, merch Pryce Devereux, 9fed is-iarll Hereford, a (2), Elizabeth, merch Richard, is-iarll Bulkeley, Baron Hill. Bu WILLIAM PRICE III, y mab hynaf o'r briodas gyntaf (ni fu blant o'r ail briodas), farw heb etifedd yn 1751, sef pan oedd ei dad yn fyw, ac aeth y stad (1774) i'w frawd RICHARD PRICE THELWALL (1720 - 1775), aelod seneddol dros Biwmares, 1774-5, a siryf sir Ddinbych, 1770. Gadawodd ef y stad i RICHARD TAVISTOCK WATKIN 'otherwise called Richard Price ' (1755 - 1794), siryf Meirionnydd, 1778/9. Ei aer ef (o'i wraig Eliza, merch hynaf Richard Kenrick, Nantclwyd, sir Ddinbych) oedd RICHARD WATKIN PRICE (1780 - 1860), siryf Sir Gaernarfon, 1829, a Meirionnydd, 1846. Yr oedd ef yn flaenllaw mewn cylchoedd amaethyddol ac yn un o gychwynwyr y Merioneth Agricultural Society (1801). Daeth yn berchennog stad Rhiwaedog hefyd trwy ei wraig Frances, merch John Lloyd, Rhagad, gerllaw Corwen (gweler Lloyd, Rhiwaedog). Mab i Richard Watkin Price a Frances (Lloyd) oedd RICHARD JOHN PRICE (1804 - 1842). Bu ef farw yn oes ei dad ac felly dilynwyd y taid gan

RICHARD JOHN LLOYD PRICE (1843 - 1923), sbortsmon ac awdur

Mab Richard John Price a Charlotte, merch John Lloyd, Rhagad. Daeth R. J. Lloyd Price, fel y gelwid ef yn gyffredin, yn adnabyddus iawn yng Nghymru ac o'r tu allan iddi, yn enwedig oblegid ei fri ym mydoedd helwriaeth, cŵn, a cheffylau. Ganwyd ef 17 Ebrill 1843, a bu farw 9 Ionawr 1923. Cyhoeddodd lyfrau megis Rabbits for profit and rabbits for powder, 1884 ac 1888; Practical pheasant rearing: with an appendix on grouse driving, 1888; Dogs Ancient and Modern and Walks in Wales, 1893. (Am fanylion am y partïon saethu yn Rhiwlas gweler rai o ddogfennau Rhiwlas, yn Ll.G.C., a ddisgrifir yn fyr yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd, i, 112-3; gweler hefyd yr arysgrif ar gapan drws yr adeilad goruwch beddrodau'r teulu yn eglwys Llanfor.) Cyhoeddodd hefyd, 1899, lyfr od ond eithaf diddorol - The History of Rulace, or Rhiwlas; Ruedok, or Rhiwaedog; Bala, its Lake; the Valley of the Dee River; and much more of Merionethshire and Counties adjacent thereto. Sefydlodd y ' Welsh Whisky Distillery ' yn Frongoch, heb fod yn bell o Rhiwlas, y 'Rhiwlas Brush Works,' etc. Bu'n gapten milisia Sir Feirionnydd ac yn un o ddirprwy-raglawiaid y sir.

Mab iddo ef a'i wraig Evelyn (Gregge-Hopwood) oedd ROBERT KENRICK PRICE (1870 - 1927).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.