PRICE, RICHARD (1723-1791), athronydd

Enw: Richard Price
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1791
Rhiant: Catherine Price (née Richards)
Rhiant: Rees Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athronydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Crefydd; Addysg; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awduron: Roland Thomas, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd 23 Chwefror 1723 yn Tyn-ton, Llangeinor, Sir Forgannwg, mab Rees Price a'i wraig Catherine. Cafodd ei addysg yn Pentwyn (Samuel Jones), Chancefield (Vavasor Griffiths), a Moorfields (John Eames), a bu'n weinidog yn Newington a Hackney; yr oedd yn Bresbyteriad ac Ariad.

Pan nad oedd ond 35 mlwydd oed cyhoeddodd Review of the Principal Questions in Morals, 1758, gan ragflaenu felly syniadau sylfaenol Kant ar foeseg. Yn rhinwedd ei dablau ac amcan-gyfrifon ynglyn â blwydd-daliadau fe'i hetholwyd yn F.R.S. (1765); rhoes ei waith ar Reversionary Payments, 1771, a'i 'Northampton Tables' 'sylfaen wyddonol', i'r defnydd y gellid ei wneuthur at bwrpas yswiriant a blwydd-daliadau o dablau actiwaraidd; addysgodd ei nai, William ('Actuary') Morgan, yn y gangen newydd hon o wybodaeth rifyddol. Cafodd yn 1767 radd D.D. gan Brifysgol Aberdeen oblegid ei lyfr, Four Dissertations, 1767. Yn ei Appeal … on the National Debt, 1772, dadleuai y dylid ailsefydlu y 'Sinking Fund'; gofynnodd Pitt am ei gyngor ar y mater a derbyniodd ef (1786).

Hyrwyddai ryddid ym mhobman - a bu'n dadlau dros ryddid crefyddol a gwelliannau yn Senedd ei wlad ei hun; ac yr oedd yn gryf o blaid yr ' Irish Volunteers' a'r Albanwyr a geisiau gael gwelliannau yn llywodraeth eu bwrdeisdrefi. Bu'n amddiffyn ac yn cynghori'r trefedigaethau yng Ngogledd America; bum mis cyn y 'Declaration of American Independence' gyda chyhoeddi ei Civil Liberty, 1776 - gwaith yr oedd ei athroniaeth wleidyddol wedi ei sylfaenu ar ei athroniaeth foesol - codwyd y cwestiwn Americanaidd o fyd yr hyn a oedd yn arferedig ac o fyd y siarteri i dir uwch - tir yr hyn a oedd yn iawn yn yr ystyr foesol; cafodd y llyfr hwn gylchrediad anghyffredin o fawr. Yn sgil llwyddiant y llyfr daeth anrhydeddau i'r awdur - cafodd ryddfreiniad dinas Llundain (1776), gwahoddiad anghyffredin ei natur, oddi wrth 'Congress' yr America newydd (1778), i reoleiddio safle ariannol a chyllid y Taleithiau, a gradd LL.D. gan Brifysgol Yale - ef yn unig yn ei gael yng nghwmni Washington (1781). Cyn i'r Taleithiau ffurfio eu cyfansoddiad (1787) cyhoeddodd Price ei bamffledyn yn rhoddi cynghorion - Importance of the American Revolution, (1784); hoffwyd y gwaith hwn gan amryw Americanwyr blaenllaw, ac y mae'n weddol sicr iddo ddylanwadu ar y cyfansoddiad. Yn hwn hefyd yr oedd Price yn dadlau dros egwyddor ffederaliaeth. Er nad oedd o blaid gwerin-lywodraeth i Brydain, rhoes groeso i'r chwyldroad yn Ffrainc - y rhan gyntaf ohono - yn ei Love of our Country , 1789; dyma a barodd i Edmund Burke ysgrifennu ei Reflections on the revolution in France ef, 1790, eithr yr oedd Paine yn ei Rights of Man, 1791, o blaid Price.

Rhoddodd lawer o gymorth i John Howard ar gyfer ei lyfr The State of Prisons. Golygodd bapurau Thomas Bayes ar egwyddorion tebygolrwydd ar ôl iddo farw yn 1761. Mae'n debyg bod hyn wedi arwain at ddiddordeb Price mewn egwyddorion yswiriant a blaendaliadau. Yr oedd yn gynghorydd i 'A society for equitable assurances on Lives and Survivorships' (bellach The Equitable Life Assurance Society) ac ef oedd yn gyfrifol mai'r Equitable oedd y swyddfa gyntaf erioed i sicrhau bod blaendaliadau yn dibynnu ar oed y sawl a yswiriwyd, a'u bod yn ddigonol i ateb gofynion y dyfodol. Bu'n gefnogol i'r syniad o bensiynau henoed a thâl salwch ac yn 1789 gofynnodd Pwyllgor Ty'r Cyffredin iddo lunio tablau ar gyfer hyn.

Bu'n diwtor am gyfnod yn yr Academi anghydffurfiol a sefydlwyd yn Hackney yn 1768, a bu'n trafod materion fel blaendaliadau a Principia Newton gyda rhai o'r myfyrwyr yno.

Ymhlith llu cyfeillion a gohebwyr Price yr oedd Shelburne, Priestley, Hume, Adam Smith, Condorcet, Mirabeau, Turgot, Franklin, Jefferson, a Washington. Bu farw 19 Ebrill 1791.

REES PRICE (1673 - 1739), gweinidog Anghydffurfiol, athro, a gwr bonheddig

Tad Richard Price. Mab oedd hwn i Rees Price, Betws, Tir Iarll. Cafodd ei addysg yn Brynllywarch, a dilynodd Samuel Jones fel gweinidog yn Cildeudy, Penybont-ar-Ogwr, a'r Betws, ac fel athro yn Tyn-ton. Yr oedd yn ewythr - ar ochr ei mam - i Anne Maddocks ('Y Ferch o Gefn Ydfa') ac yn warcheidwad drosti yn ôl ewyllys; ceir ei enw ef ar y weithred a baratowyd adeg ei phriodas hi (1725).

SAMUEL PRICE (1676 - 1756), gweinidog Anghydffurfiol

Brawd iau Rees Price. Cafodd ei addysg yn Brynllywarch ac yn Attercliffe. Daeth yn gydweithiwr ac yn gyfaill cywir i Isaac Watts - yn gynorthwywr iddo ar y cyntaf (1703-13), yn gyd-weinidog ag ef (1713-48), a'i ddilyn wedi hynny. Bu'n helpu gydag addysg ei nai, Richard Price, bu'n cynorthwyo eglwysi a gweinidogion Cymreig, a chyhoeddodd bregethau.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.