Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRICE , ROGER ( 1834 - 1900 ), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain ac ieithydd ;

g. 24 Ebrill 1834 yn Peityn Glas , ym mhlwyf Llandyfaelog , sir Frycheiniog . Daeth yn aelod o Fethania , Merthyr Cynog . Bu'n efrydydd yn Western College , Plymouth , ac apwyntiwyd ef gan y gymdeithas uchod yn 1858 i genhadaeth Makololo , yn Affrica . Rhwng y dwymyn a'r rhyfela, rhoed atalfa ar ei waith, a bu farw ei wraig a'i blentyn. Gwnaed ail gynnig o Kuruman , ond yn ofer. Wedyn anfonwyd ef i arfordir y dwyrain, gan weithio am gylch Tanganyika o Zanzibar , a sefydlu cenhadaeth trwy bris mawr yno. Yn 1883-4 ymwelodd â gogledd Bechuanaland a Matabeleland , ac ar 28 Gorffennaf dewiswyd ef yn athro yng ngholeg Moffat , yn Kuruman , lle y bu f. ar 21 Ionawr 1900 . Yn 1896 cwplaodd gyfieithiad o'r Hen Destament o'r fersiwn Saesneg diwygiedig.

Ffynonellau:

  • G. Penar Griffith , Cenhadon Cymreig ;
  • E. Lewis Evans , Cymru a'r Gymdeithas Genhadol, sef hanes ei Chychwyn (1945) .

Awdur:

Y Parchedig Ddr Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais / Abertawe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54