Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS (1764 - 1843), awdur

Enw: Thomas Prichard
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1843
Plentyn: James Cowles Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Hywel David Emanuel

brodor o sir Fynwy; ganwyd yn 1764. Treuliodd gyfnod helaeth o'i fywyd yn Ross, Swydd Henffordd, lle hefyd y bu farw. Yr oedd yn henuriad ('elder') gyda'r Crynwyr, ac, yn 1813, cyhoeddodd Remarks suggested by the perusal of a Portraiture of Primitive Quakerism by William Penn. Dywedir iddo fod yn ' amlwg mewn daioni a mawredd ' a'i fod yn fwy hyddysg yn hanes cynnar yr enwad na'r un Crynwr arall o'i gyfnod. Bu farw 21 Awst 1843 yn 78 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS (1764 - 1843)

Mab iddo oedd JAMES COWLES PRICHARD (1786 - 1848), meddyg, ieithegwr, ac anthropolegwr - gweler D. Lleufer Thomas yn y D.N.B., a G. Penrhyn Jones yn y Genhinen, Haf 1963.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.