PRICE, THOMAS (1820 - 1888), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Thomas Price
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1888
Priod: Ann Price (née David)
Rhiant: Mary Price
Rhiant: John Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Watkin William Price

Ganwyd 17 Ebrill, yn fab i John a Mary Price, Maesycwper, Ysgethrog, plwyf Llanhamlach, sir Frycheiniog. Dechreuodd weithio yn ieuanc iawn, ar y cyntaf ar fferm ac wedyn fel gwas bach teuluol i deulu Clifton, Tŷ Mawr, Llanfrynach; y merched Clifton a ddysgodd Saesneg iddo. Gydag arian a gynilodd o'i enillion fe'i prentisiodd ei hun i Thomas Watkins, Struet, Aberhonddu, paentiwr, gwydrwr, etc. Eglwyswyr oedd ei rieni, eithr ymunodd Thomas â'r Bedyddwyr yn Aberhonddu. Wedi iddo fwrw ei brentisiaeth cerddodd yr holl ffordd i Lundain lle y bu'n gweithio am bedair blynedd a pharhau ar yr un pryd i dderbyn addysg mewn Mechanics' Institute. Aeth i goleg y Bedyddwyr, Pontypŵl, yn 1842, a bu yno am dair blynedd a hanner o dan y pennaeth Thomas Thomas. Yn niwedd 1845 aeth i fugeilio'r Bedyddwyr a oedd yn cyfarfod yn Carmel, Monk Street ('Capel Penpound'), Aberdâr, cafodd ei ordeinio 1 Ionawr 1846, a bu yno, ei unig ofalaeth, hyd ei farwolaeth ar 29 Chwefror 1888. Trwy ei ynni a'i fedr fel trefnydd llwyddodd Price i beri cynnydd mawr yn nifer Bedyddwyr y cwm trwy agor ysgolion Sul ac yna adeiladu capeli. Symudodd ei eglwys i gapel newydd, sef Calfaria. Daeth yntau'n adnabyddus iawn fel pregethwr a darlithydd. Cafodd Ph.D. gan Brifysgol Leipzig; ac yn 1865 ef oedd llywydd cymanfa Bedyddwyr Cymru. Cyhoeddodd lyfrau ateb i Bapto a Baptiso (William Edwards), Jiwbili Eglwys Calfaria, Aberdar, 1862, a Trem, 1885-6. Bu'n fwy adnabyddus fyth fel golygydd Y Gwron, 1855-60, Y Gweithiwr, 1859-60), a Seren Cymru, 1860-76; bu hefyd yn golygu Y Medelwr Ieuanc a Y Gwyliedydd. Gwnaeth waith mawr gyda sefydlu cymdeithasau cyfeillgar - yn enwedig ' Yr Odyddion ' a'r ' Iforiaid.' Cymerth ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth ac addysg (e.e. bu'n croesi cleddyfau â John Griffith, ficer Aberdâr, adeg cyhoeddi adroddiadau 1846-7 ar gyflwr addysg yng Nghymru). Bu'n ddiwyd gyda mudiadau a sefydliadau lleol; ef oedd ysgrifennydd cyntaf yr 'Aberdare British School Committee' a agorodd yr Ysgol Frutanaidd gyntaf yn nyffryn Aberdâr, sef y 'Park School' ('Ysgol y Comin'). Priododd, 16 Mawrth 1847, Mrs. Ann Gilbert (a fu farw 1 Medi 1849), merch ieuengaf Thomas David, Abernant-y-groes, Cwmbach, a bu iddynt fab a merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.