PRICE, WILLIAM (1597 - 1646), clerigwr

Enw: William Price
Dyddiad geni: 1597
Dyddiad marw: 1646
Priod: Margaret Price (née Vaughan)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Yn enedigol o sir Ddinbych. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, ar 16 Hydref 1616 yn 19 oed (M.A. 21 Mehefin 1619, B.D. 14 Mehefin 1628). Etholwyd ef 26 Medi 1621 yn ddarlithydd mewn athroniaeth foesol, y cyntaf i ddal y swydd a sefydlwyd gan Thomas White yn Rhydychen; daliodd hi hyd 1630. Pan fu farw White yn Ebrill 1624, Price a draddododd y bregeth angladdol, a chyhoeddwyd hi o dan y teitl Oratio funebris habita Oxoniae 22 April 1624 in laudem Doctoris White. Yn 1630 ymunodd Price ag eraill i brotestio i'r brenin yn erbyn penodiad yr esgob Laud yn ganghellor Prifysgol Rhydychen. Sefydlwyd ef 10 Chwefror 1632 yn rheithor Dolgellau, Sir Feirionnydd. Awgryma Foster, Alumni Oxonienses, 1500-1714, 1208, fodd bynnag, mai clerigwr arall o'r un enw oedd hwn. Priododd Margaret, ferch Robert Vaughan Hengwrt, yr hynafiaethydd enwog. Bu farw yn Nolgellau, a chladdwyd ef yn yr eglwys yno ar 25 Hydref 1646.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.