Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRYS , EDMWND ( 1544 - 1623 ), archddiacon Meirionnydd, a bardd .

Ganed yn 1544 , ond nid oes sicrwydd pendant ymha le, o bosibl yn y Gydros , plwyf Llanfor , Meirionnydd . Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol ramadeg esgobaeth Llanelwy . Yn 1565 aeth yn efrydydd i Goleg S. Ioan , Caergrawnt . Ordeiniwyd ef yn ddiacon 23 Mawrth 1567 yn eglwys Conington , sir Gaint . Graddiodd yn B.A. yn 1568 ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Ely yn yr un flwyddyn. Graddiodd yn M.A. yn 1571 . Urddwyd ef yn offeiriad Ffestiniog a Maentwrog yn 1572 , ond ni bu yno yn byw y tro hwn. Ar 13 Mawrth 1576 sefydlwyd ef yn rheithor Llwydlo , sir Amwythig . Ar 6 Tachwedd 1576 gwnaed ef yn archddiacon Meirionnydd , ac o hyn ymlaen hyd ei farw bu'n trigo yn y Tyddyn Du , Maentwrog . Ar 16 Ebrill 1580 rhoddwyd iddo fywoliaeth ychwanegol Llanenddwyn , tuag wyth milltir o Faentwrog i gyfeiriad Abermaw . Y ffaith yma, mae'n debyg, a barodd gychwyn y traddodiad anghywir mai yn y Gerddi Bluog , ger Harlech , yr oedd ei gartref. Gwnaed ef yn un o ganoniaid Llanelwy , 8 Hydref 1602 .

Ychydig o ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ceir ei hanes yn ymryson gerbron Llys y Seren . Bu'n cynorthwyo'r esgob William Morgan gyda'r gwaith o gyfieithu'r Beibl . Anghywir yw'r traddodiad iddo ef gyfieithu'r salmau; yr hyn a wnaeth, yn ôl pob tebyg, oedd helpu drwy fwrw golwg dros waith yr esgob Morgan . Yn 1621 , cyhoeddodd ei Salmau Cân ; printiwyd hwy yn Llundain a chyhoeddwyd hwy gyda'r Llyfr Gweddi Gyffredin . Nid ef oedd y cyntaf ychwaith i gyfansoddi ‘salmau cân.’ Yr oedd Sternhold a Hopkins wedi gwneud yr un gwaith yn Lloegr , ac eraill yng Nghymru . Ond llwyddodd ef i gyfieithu'r salmau ar fesur mwy canadwy na'r gweddill, ac yn ei lyfr cynhwysodd hefyd rai tonau: ‘ y llyfr Cymraeg cyntaf a cherddoriaeth ynddo .’ Cyhoeddwyd hwy'n amal iawn wedyn. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth , a hefyd rai darnau yn y mesur rhydd. Bu'n ymryson gyda rhai o'r beirdd cyfoes ; yr ymryson fwyaf adnabyddus yw honno gyda William Cynwal . Mewn gwirionedd, dadl yw'r ymryson rhwng cynrychiolydd diwylliant y prifysgolion Seisnig (sef Prys ) a chynrychiolydd yr hen ddysg farddol Gymreig ( Cynwal ). Ni fyn Cynwal fod Prys yn fardd o gwbl. Ceir gan Edmwnd Prys hefyd rai cywyddau ar destunau crefyddol. Dichon mai propaganda yw'r rhain dros y grefydd Brotestannaidd newydd. Ond yn y cywyddau sy'n cynnwys ei sylwadaeth ar fywyd y gwelir ei farddoniaeth orau, yn arbennig ei gywydd ‘ yn erbyn anllywodraeth y cedyrn .’ Nid bardd rhamant mo Prys … ond ni ellir gwrthod iddo'r teitl o fardd myfyrdod, ac y mae myfyrdod, “reflection,” doethineb, yn rhan o faes yr awen o'r cychwyn.' Bu f. yn 1623 .

Priododd Edmwnd Prys ddwywaith: (1) Elin , merch John ap Lewis , Pengwern , Ffestiniog , a (2) Gwen , merch Morgan ap Lewis , Pengwern , cyfnither i'r wraig gyntaf — y ddwy yn disgyn o Dafydd ab Ieuan ab Einion , cwnstabl castell Harlech , ac felly o hil Osbwrn Wyddel . O'r briodas gyntaf cafwyd JOHN PRYS , ROBERT PRYS (a briododd Elizabeth ferch Robert ab Edward , Maesyneuadd ), a JANE PRYS . O'r ail wraig cafwyd FFOULK PRYS (isod), MORGAN PRYS (isod), ac EDMUND PRYS (isod).

Arferid credu i Edmwnd Prys yr archddiacon fyw yn Gerddi Bluog , gerllaw Llanbedr , Meirionnydd , yn hytrach nag yn Tyddyn Du , sydd yn ymyl Gellilydan ; bellach, fodd bynnag, gellir profi mai Morgan Prys , mab Edmwnd Prys o'i ail wraig, a aeth i fyw i Gerddi Bluog , sef wedi iddo briodi Elizabeth , ferch Robert ab Edward Humphrey , Llanfair. Camgymerodd J. E. Griffith ac ysgrifenwyr eraill wrth ddywedyd mai Margaret ( Williams ) oedd aeres Gerddi Bluog ac mai hyhi oedd gwraig Morgan Prys ; y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol ddwy ddogfen (yng nghasgliad Gerddi Bluog a Crafnant ; gw. Cylch. Cymd. Hanes Sir Feirionydd , i, 39-40), wedi eu dyddio 20 Awst 1602 , ynglyn â phriodas Morgan Prys ac Elizabeth . Y mae dogfennau eraill yn yr un casgliad yn profi i Morgan Prys gael ei ddilyn gan ROBERT , hwnnw gan MORGAN , Morgan gan ROBERT , a Robert gan MORGAN . Priododd y Morgan olaf hwn, yn 1710 , Katherine , merch Jane Wynne , Moelyglo , gerllaw Harlech , a chael merch, JANE , a briododd â Griffith Williams , Islaw'rffordd , Llanddwywe , yn 1732 .

Mab hynaf Edmwnd Prys o'r ail briodas oedd Ffoulk ( Ffowc ) Prys (bu f. 11 Ionawr 1624/5 ), bardd . Nid offeiriad mohono, ac felly nid efo mo'r Ffoulk Price , B.A. , a gafodd fywoliaeth Llanllyfni , sir Gaernarfon , 21 Gorffennaf 1670 (gw. isod). Fel ei dad, yn y Tyddyn Du yr oedd yn byw, ac fel Ffowc Prys Tyddyn Du y cyfeiria Gruffydd Phylip ato yn ei farwnad iddo. Canodd yntau farwnad i Syr John Wynn , Gwydir , a chywydd ymryson â Richard Phylip . Ceir ei waith barddonol yn Pen. MSS. 119 a 144 , a NLW MS. 263, 719, 1578, 2288, 2691-2, 6499, 11087 , etc. Ar 8 Mai 1632 , sef tuag wyth mlynedd wedi iddo farw — a sylwer iddo farw yn bur fuan ar ôl ei dad — bu ymchwiliad swyddogol (‘ Inquisitio post mortem ’) ynglyn â'i diroedd; ar hyn gw. erthygl A. O. Evans yn Trans. Cymm. , 1922-3 , lle y dangosir fod ei diroedd yn cynnwys lleoedd y mae rhai o chwareli llechi Ffestiniog arnynt yn awr — gwyddys i rai o'r tiroedd hyn ddyfod i feddiant teulu Tanybwlch gw. Evans , Griffith ac Oakeley (Teuluoedd), Tanybwlch , Maentwrog — o bosibl trwy briodas ei ferch hynaf, a'i aeres, sef Lowry , a Robert Evans , Tanybwlch . Erbyn 1632 hefyd yr oedd ei weddw, Elizabeth (merch Peter Meyrick , Ucheldre , Gwyddelwern ), wedi priodi Griffith Lloyd .

Cafodd Edmund Price fywoliaeth Llanllyfni , sir Gaernarfon , 5 Chwefror 1637 , a'i symud ym Mehefin 1639 i fywoliaeth Llanfechell , sir Fôn (erbyn hynny fe'i ceir yng nghofnodion esgobaeth Bangor fel ‘ Edmund Price M.A. ’ ); y mae'n debyg iddo f. yn 1643 gan i Robert Lloyd ei ddilyn yn Llanfechell yn haf y flwyddyn honno. Efallai mai ef oedd yr Edmund a rydd J. E. Griffith ymysg meibion yr archddiacon o'r ail wraig; os felly, efe, y mae'n debyg, yw'r Edmund Price , ‘ of Wales ,’ y dywed Venn ( Alumni Cantab .) iddo ymaelodi ym Mhrifysgol Caergrawnt o Goleg Queens ’ yn nhymor y Grawys, 1615/6 , graddio 1618/9 ( M.A. , 1622 ).

Am yr EDMUND PRICE a ddaeth yn ficer Clynnog ym mis Mai 1692 ac a fu f. (yn ôl J. E. Griffith ) ym mis Chwefror 1718 (1719?) , dywed Foster ( Index Ecclesiasticus ) mai mab ydoedd i Edw. Price , Llanbedr , Merioneth , iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu ) 7 Ebrill 1682 , yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685 , a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall ) yn 1688 . O bosibl mai yr un oedd yr Edw. Price , enw ei dad yn ôl Foster , ag Edward Prys , mab Morgan Prys , Gerddi Bluog , sef yr Edward Prys a briododd Lowry Poole , Cae Nest , Llanbedr .

Ni ellir bod yn sicr am y FOULK ( FOULCE ?) PRICE , B.A. , a gafodd fywoliaeth Llanllyfni , sir Gaernarfon , 21 Gorffennaf 1670 ; efallai ei fod yn fab i'r Edmund Price (uchod) a gawsai yr un fywoliaeth yn 1637 . Gall, serch hynny, ei fod yn perthyn i'r un teulu â'r FULKE PRICE a fu f. 1632 . Addysgwyd hwnnw yng Ngholeg Ioan , Caergrawnt ( B.A. 1596-7 , M.A. 1600 , B.D. 1607 , D.D. 1616 ). Bu'n rheithor Cerrig-drudion , 1597-1614 , prebendari yn Llanelwy , 1599-1632 , rheithor Whittington , sir Amwythig , 1605-8 ; ficer Gresford , 1609-13 ; rheithor Llaninio , 1613-32 ; rheithor Cwm , sir y Fflint , 1616-24 ; a rheithor Llanfechain , sir Drefaldwyn , 1617-32 . Canwyd marwnad i'r Price hwn gan Siôn Cain yn 1633 — gw. y copi (yn llawysgrifen y bardd ei hunan) sydd yn Pen. MS. 116 . Rhydd Siôn Cain enwau chwech o blant Dr. Price (o'i ddwy wraig), ac na cheir mo'r enw Ffoulk yn eu plith gall fod Fulke Price , Llanllyfni , yn wyr iddo; efallai, serch hynny, y byddid ar dir diogelach drwy ei gyfrif yn fab yr Edmund Price y rhoddwyd yr un fywoliaeth iddo yn 1637 .

Ffynonellau:

  • W. J. Gruffydd , Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 , 94-109;
  • J. Morris-Jones , Y Geninen , xli, rhif ii;
  • T. Gwynn Jones , Y Llenor , ii, rhif i, 245-64;
  • Griffith Jones (Glan Menai) , Traethawd Bywgraphyddol a Beirniadol ar Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionydd , Conwy, 1899 ;
  • R. Owen , ‘Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig , 10 Mehefin 1929 , Gorffennaf 1929 , et seq. ;
  • A. Owen Evans , ‘Edmund Prys,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1922-3 ;
  • T. Parry , Hanes Llenyddiaeth Gymraeg , 1944 , 146-9, 161-3;
  • T. H. Parry-Williams , Canu Rhydd Cynnar , 1932 , xxx-xl, 335-7, 396-9;
  • T. R. Roberts (Asaph), Edmwnd Prys, archddiacon Meirionydd traethawd bywgraffyddol a beirniadol , Caernarfon, 1899 ;
  • Ifor Williams , Llenyddiaeth Gymraeg a Chrefydd , Wrecsam, 1930 , rhif ii, 5-10;
  • John Wyn Roberts , traethawd M.A. Prifysgol Cymru, ‘Edmwnd Prys: hanes ei fywyd a chasgliad o'i weithiau’ (yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor).
  • A. Ivor Pryce , The Diocese of Bangor in the sixteenth century being a digest of the registers of the bishops, A.D. 1512-1646 , 1923 a Diocese of Bangor During Three Centuries, seventeenth to nineteenth century inclusive being a digest of the registers of the bishops , 1929 ;
  • erthygl ar ‘Phylipiaid Ardudwy’ yn Y Cymmrodor , xlii;
  • Browne Willis , A Survey of the Cathedral-Church of St. Asaph , 1720 ;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph ;
  • Y Geninen , Gwanwyn 1951, t. 65.

Awduron:

Y Parch. John Wyn Roberts, M.A., B.D., (1916-1953), Wrecsam

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54