PRYSE, JOHN (1826 - 1883), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau

Enw: John Pryse
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1883
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn 1826 yn sir Faesyfed, ond yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn, y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Prentisiwyd ef yn grydd ond yn gynnar ymsefydlodd yn nhref Llanidloes fel gwerthwr llyfrau, ac yn ddiweddarach fel argraffydd. Ymddiddorai yn llenyddiaeth a hanes Cymru, a chyhoeddodd nifer mawr o adargraffiadau o lyfrau Cymreig, yn eu plith: Specimens of ancient Welsh poetry (Evan Evans), View of the primitive ages (Theophilus Evans), Causes of dissent in Wales (A. J. Johnes). Efe hefyd a gyhoeddodd Llyfryddiaeth y Cymry (W. Rowlands), a nifer o lyfrau o'i waith ei hun: Pryse's Welsh Interpreter, Breezes from the Welsh mountains, Cydymaith i'r Almanaciau, Pryse's handbook to the Radnorshire and Breconshire mineral springs. Yn 1859 cychwynnodd y Llanidloes and Newtown Telegraph, papur wythnosol, yr ail a gyhoeddwyd yn Sir Drefaldwyn. Bu'n briod ddwywaith, ei wraig gyntaf yn weddw Richard Mills, y cerddor. Bu farw 19 Hydref 1883.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.