PRYS, JOHN PRICHARD (fl. c. 1704-21), bardd o Eglwysael (Llangadwaladr), sir Fôn.

Enw: John Prichard Prys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, yn cynnwys englynion ateb i rai T. Jones yn ei Almanac am 1704, a nifer o ganeuon rhydd, yn gerddi crefyddol, moesol, a serch. Cyhoeddwyd ei gasgliad, Difyrwch Crefyddol, yn 1721; cyhoeddwyd hefyd garol haf o'i waith yn Dwy o Gerddi Duwiol (gweler Bibliog. of Welsh Ballads).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.