PUGH, JOHN (1744 - 1799), clerigwr

Enw: John Pugh
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1799
Rhiant: Jane Pugh
Rhiant: Hugh Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd yn Nolgellau, ail fab Hugh a Jane Pugh. Yr oedd, felly, yn frawd i David Pugh a Robert Pugh. Aeth i Goleg Hertford, Rhydychen, yn 1767, gan raddio yn 1771. Yr oedd yn un o'r saith a gondemniwyd yn Rhydychen (1768) am eu 'duwioldeb.' Bu'n ficer Ranceby a Cranwell, swydd Lincoln, o 1771 hyd 1799. Cymynroddwyd iddo y rhan helaethaf o gyfoeth ei gyfaill, Joseph Jane, clerigwr efengylaidd Iron Acton (1795), a gadawodd Pugh yntau yn ei ewyllys ran o'r cyfoeth hwnnw i bwrpas mudiadau efengylaidd yng Nghymru. Bu farw 26 Ebrill 1799.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.