PYRKE, JOHN (1755 - 1834), trydydd gwneuthurwr gwaith japan ym Mrynbuga

Enw: John Pyrke
Dyddiad geni: 1755
Dyddiad marw: 1834
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: trydydd gwneuthurwr gwaith japan ym Mrynbuga
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes
Awdur: Robert Stephen

Daeth o Lundain (lle yr oedd yn gwerthu nwyddau japan - yn arbennig wrnau, tebotau mawrion) i Frynbuga yn 1799; yn 1814 daeth yn berchen gwaith japan Thomas Hughes (1740 - 1828). O dan Pyrke daeth y farnais ('lacquer') o liw siocoled tywyll yn boblogaidd - y 'lacquer' arbennig hwnnw y daeth llestri a phethau japan eraill Brynbuga yn enwog o'i blegid; yr oedd hefyd yn defnyddio 'papier-maché' fel gwaelod neu sylfaen. Yr oedd ei waith lliw yn artistig, eithr yr oedd ansawdd y 'lacquer' yn mynd ar i lawr. Yr oedd yn ddinesydd ym Mrynbuga yn 1815, yn faer ('portreeve') yn 1817 a 1824; cymerai ddiddordeb mawr mewn bywyd cyhoeddus, yr oedd yn Rhyddfrydwr o ran gwleidyddiaeth, ac yn hyrwyddwr pybyr i'r ysgolion newydd a elwid yn 'Lancastrian.' Gwerthodd ei ffatri yn 1826 i Evan Jones (1790 - 1860). Bu farw 1 Tachwedd 1834 a chladdwyd ef yn y Twyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.