RANDLES, EDWARD (1763-1820), telynor ac organydd dall;
g. yn Wrecsam, 1763, mab Edward Randles, cigydd yn y dref. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan John Parry [q.v.], Rhiwabon. Yr oedd yn chwaraewr medrus ar yr organ, a phenodwyd ef yn organydd eglwys Wrecsam yn 1788. Cyfeiria George Thomson, Edinburgh, ato yn ei ragymadrodd i'w gyfrol Alawon Cymreig, 1809, fel telynor rhagorol. Bu ef a'i ferch Elizabeth Randles [q.v.] yn canu o flaen Siôr III a'r frenhines Charlotte. Bu f. yn Wrecsam 23 Awst 1820.
Llyfryddiaeth:
- R. Griffith, Llyfr Cerdd Dannau;
- Bye–Gones, 1878;
- Asaph (Em. W.).
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn